Croeso mawr i Sid, ein recriwt mwyaf newydd.

Mae Sid yn hyfforddai yn Wood-B, un o’n rhaglenni yn y gweithle ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, lle mae wedi ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i sicrhau swydd yn ein caffi ym Mharc Gwledig Bryngarw.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Fel sefydliad arweiniol Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl a gwneud Awen yn gyflogwr cynhwysol. Mae Sid wedi bod yn gwirfoddoli yn ein caffi ym Mharc Gwledig Bryngarw ers rhai wythnosau ac rydym wedi ei weld yn ffynnu o fewn y gweithle. Rwy’n falch iawn bod Sid wedi’i phenodi’n llwyddiannus fel cynorthwyydd caffi achlysurol – galwch i mewn i ddweud helo yn ystod eich ymweliad, gallwch fod yn sicr o groeso cynnes a phaned o goffi gwych!”