Yr hyn a wnawn

Llesiant Creadigol:
Addysg

BYT

Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yw cwmni theatr arobryn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ar gyfer pobl ifanc rhwng 7 a 18 oed.

Cynhelir dosbarthiadau BYT wythnosol mewn drama, llais, dawns a theatr dechnegol yn ystod y tymor ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl, gydag arddangosiadau diwedd tymor a pherfformiadau theatr gerdd llawn blynyddol.

Gŵyl Lenyddiaeth Plant Pen-y-bont ar Ogwr

Mae llai na 10% o wyliau llenyddiaeth yn y DU yn bwrpasol ar gyfer plant.

Nod Gŵyl Lenyddiaeth Plant Pen-y-bont ar Ogwr yw cyflwyno sgyrsiau, gweithdai, perfformiadau a mwy sy’n cysylltu plant a phobl ifanc o bob oedran sy’n dwlu ar ddarllen ac adrodd straeon, gan hybu llesiant a llythrennedd wrth ddatblygu cyfleoedd i deuluoedd fwynhau’r celfyddydau gyda’i gilydd.  

Anrhydeddu Treftadaeth

Trwy ddathlu ffigurau, adeiladau a chymunedau lleol a chenedlaethol, byddwn yn defnyddio'r celfyddydau i anrhydeddu treftadaeth, gan gysylltu pobl o bob oedran â hanes i greu gwaddol i heddiw.

Yn flaenorol rydym wedi cynhyrchu dau fideo gyda Live Music Now i ddathlu Neuadd y Dref Maesteg a Gwaith Haearn Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn ystod 2023 byddwn yn dathlu tri chanmlwyddiant Canolfan Richard Price yn Llangeinwyr mewn partneriaeth â Llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr.

Richard Price Wonderful WIndows
BYT Tech

Sgiliau Awen

Wrth weithio i greu sector diwylliannol medrus, cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru, byddwn yn cynnig gweithdai ymarferol, cyrsiau a chyfleoedd y tu ôl i’r llen i bobl ifanc ac oedolion lleol ym mhob un o’n theatrau.

Dan arweinwyr proffesiynol sy’n arbenigwyr yn eu maes, gyda chymorth Creative & Cultural Skills, byddwn yn cefnogi’n cymunedau lleol gyda rolau gwirfoddol a phrentisiaeth yn ein lleoliadau, gan fuddsoddi yn ein gweithlu lleol.