Yr hyn a wnawn
Bryngarw, B-Leaf a Wood-B
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen Parc Gwledig Bryngarw ym Mrynmenyn a dau brosiect i oedolion ag anableddau dysgu, B-Leaf a Wood-B
Bryngarw, B-Leaf a Wood-B
Officipsum harum que ped quia qui doluptatio. Mae'n et qui quim nonsed quissitium ex exerae sapienim re et latem explitas quide possimet veligen ducimus di ilianda qui toreptate neu voluptatis volupta quiatur , se dolo occabor swm qui ut dolorrovit , senisci sums qui ut dolorrovit , senisci sums quite ut dolorrovit , senisci sums quiteum con dignosis , senisci sums quiteum con divolo , senisci , consimmits sums , par di , , senisci , , , , , . sam hilis dolupiendi dolesse.
Parc Gwledig Bryngarw
Gyda dros 100 erw o ddolydd, gerddi a choetiroedd aeddfed, mae Parc Gwledig Bryngarw yn lle diddorol i ymweld ag ef drwy gydol y flwyddyn.
Gall ymwelwyr fwynhau tawelwch blodeuol yr Ardd Ddwyreiniol; cerdded drwy goedwigoedd â charped o glychau’r gog dan draed; cerdded ar hyd glannau Afon Garw yn chwilio am Fronwen y Dŵr a Glas y Dorlan; gan wylio plant yn mwynhau’r iard chwarae gyda’i sleid tŵr enwog ac offer chwarae hygyrch.
Mae’r Parc yn denu dros 240,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
B-Leaf
Mae B-Leaf yn fenter sy’n rhoi cyfleoedd gwaith i oedolion ag anableddau, wedi’i lleoli ar dir Parc Gwledig Bryngarw.
Mae’n gweithredu fel meithrinfa blanhigion a chanolfan arddio ac mae’n darparu rhaglen eang o hyfforddiant ym meysydd garddwriaeth a chynhaliaeth tir.
Cefnogir hyfforddeion gan dîm o staff ymroddedig sy’n eu helpu i wneud cynyddu ym mha ffordd bynnag y gallant i ddatblygu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd ac yn y pen draw byw bywydau mwy annibynnol a chyflawn.
Dilynwch B-Leaf ar gyfryngau cymdeithasol
Wood-B
Mae Wood-B yn fenter sy’n cynnig cyfleoedd gwaith i oedolion ag anableddau dysgu sydd wedi’i lleoli mewn gweithdy gwaith coed llawn offer yn Nhondu.
Cefnogir yr hyfforddeion gan dîm o staff profiadol i gynhyrchu nwyddau gwaith coed a saernïaeth pwrpasol o safon uchel ar gyfer cwsmeriaid a sefydliadau lleol, gan gynnwys meinciau gardd, blychau adar, hysbysfyrddau, siediau a thai haf.