Yr hyn a wnawn

Theatrau

Theatrau

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn rheoli tair theatr boblogaidd: Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, Neuadd y Gweithwyr Blaengarw a'r Metropole (Met) yn Abertyleri.

Parhaodd y cynnydd ar ailddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd yn Neuadd y Dref Maesteg a Sicrhawyd Cyllid Lefelu i Fyny ar gyfer gwaith adnewyddu mawr ar y Miwni ym Mhontypridd.

Gan weithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, gallwn gysylltu, cryfhau a chefnogi cymunedau trwy ymgysylltu â phrofiadau celfyddydol a diwylliannol.

Pafiliwn y Grand, Porthcawl

Adeiladwyd Pafiliwn y Grand ym 1932, felly mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed eleni. Mae’n theatr Celf Deco clasurol Gradd II sy’n cyflwyno rhaglen gymysg o gelfyddydau perfformio, adloniant byw, cynyrchiadau cymunedol, theatr ieuenctid a gweithdai creadigol.

Mae’r theatr wedi’i leoli ar lan y môr ym Mhorthcawl gyda golygfeydd panoramig o Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

Mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr, gwleddoedd, cynadleddau a digwyddiadau a’r Ŵyl Elvis boblogaidd a Gŵyl Ffilm Banff.

Neuadd y Dref Maesteg

Disgwylir i Neuadd y Dref Maesteg yng nghanol Cwm Llynfi ailagor yn 2022/23. Mae gwaith ailddatblygu uchelgeisiol y mae mawr ei angen yn cael ei wneud arni ar hyn o bryd.

Mae’r prosiect hwn gwerth £8 miliwn yn un o’r buddsoddiadau mwyaf a wnaed yn yr ardal ac yn un o’r prosiectau cyfalaf celfyddydol mwyaf sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd.

Y Met

Mae’r Met (fel y’i gelwir yn lleol) wedi sefyll yng nghalon cymuned Abertyleri ers dros 130 o flynyddoedd. Gan gynnal rhaglen o ddigwyddiadau proffesiynol a chymunedol sy’n cynnwys y corau lleol niferus, cymdeithasau drama, cerddorion, ysgolion dawns a grwpiau eraill sy’n cyfrannu cymaint at fywyd diwylliannol a threftadaeth y dref dyffryn hon yn Ne Cymru. 

Canolfan Gelf Muni

Cymeradwywyd cynigion i adnewyddu’r Muni poblogaidd ym Mhontypridd, a sicrhau dyfodol yr adeilad mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, gan Aelodau Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ddiwedd 2019.

Yn hydref 2021, dyfarnodd Llywodraeth y DU £5.3 miliwn o Gyllid Codi’r Gwastad i wireddu’r cynlluniau hyn.

Neuadd y Gweithwyr Blaengarw

Ar fryn ym mhen uchaf Cwm Garw mae Neuadd y Gweithwyr Blaengarw, canolfan gymunedol fywiog. Agorwyd y neuadd ym mis Mawrth 1894, mae ganddi awditoriwm gyda 250 o seddi ynghyd â llwyfan a bar, a nifer o ystafeloedd a swyddfeydd aml-bwrpas, sydd yn cael eu defnyddio’n gyson gan grwpiau lleol.

BYT Rent

Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn gwmni theatr arobryn ar gyfer pobl ifanc rhwng 7 a 18 oed.

Cynhelir dosbarthiadau BYT wythnosol yn ystod y tymor o Bafiliwn y Grand, gyda phedwar perfformiad fesul blwyddyn ysgol gan yr adrannau iau a hŷn.

Yn ogystal â drama, canu a dawns, gall aelodau hefyd ymuno â’n dosbarthiadau BYT Tech i roi cynnig ar eu sgiliau cefn tŷ, technegol a rheoli llwyfan.