Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Cadwch Gymru’n Daclus wedi lansio’r Hyb er mwyn galluogi ymwelwyr â pharciau i fenthyg offer codi sbwriel am ddim.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Canolfannau Casglu Sbwriel wedi bod yn ymddangos ar draws y wlad fel rhan o Caru Cymru, menter fwyaf erioed Cadwch Gymru'n Daclus i gael gwared ar sbwriel a gwastraff. Mae bron i 200 o Hybiau bellach ar agor, gydag 16 wedi’u lleoli mewn parciau Baner Werdd arobryn fel Bryngarw.

Gall unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a busnesau sy'n ymweld â Pharc Gwledig Bryngarw nawr fenthyg popeth sydd ei angen arnynt i wneud gwaith glanhau diogel, gan gynnwys codwyr sbwriel, cylchoedd, festiau uwch-vis a bagiau bin o B-Leaf.

Mae B-Leaf yn ganolfan arddio bwrpasol sy’n darparu rhaglen hyfforddi helaeth mewn garddwriaeth a chynnal a chadw tiroedd i oedolion ag anableddau dysgu. Wedi'i leoli ar dir Parc Gwledig Bryngarw, ger Tŷ Bryngarw, mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 4pm bob dydd.

Dywedodd Brian Jones, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr:

“Gyda gwyliau’r haf ar y gorwel, mae’n wych gweld Hyb Casglu Sbwriel Bryngarw yn agor.

“Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod bod faint o sbwriel a geir ar ein strydoedd ac yn ein parciau yn aml yn cynyddu wrth i’r tywydd wella. Mae ein hybiau wedi'u cynllunio i'w gwneud mor hawdd â phosibl i lanhau. Ni allwn aros i weld arwyr sbwriel addawol yn defnyddio’r offer.”

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy’n rheoli Bryngarw mewn partneriaeth â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ymrwymo i leihau gwastraff, gwella ailgylchu a defnyddio ffynonellau ynni mwy cynaliadwy ar draws y parc. Mae mentrau diweddar wedi cynnwys gosod paneli solar ar y ganolfan ymwelwyr, B-Leaf a'r swyddfeydd, ychwanegu mwy o finiau ailgylchu yn yr ardaloedd sydd â'r nifer fwyaf o ymwelwyr a newid ffynonellau golau i LED.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae Bryngarw yn denu mwy na 220,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yn ffodus, mae mwyafrif helaeth yr ymwelwyr hyn yn caru Bryngarw gymaint â ni ac yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn gwaredu eu sbwriel yn y biniau ailgylchu a gwastraff cyffredinol a ddarperir. Er ei bod yn drueni bod taflu sbwriel yn dal i fod yn broblem mewn rhai ardaloedd o’r parc, rwy’n falch bod gennym bellach gyfleuster ar y safle yn B-Leaf ar gyfer unrhyw un sydd am godi sbwriel yn ddiogel. Trwy gynnwys ein hyfforddeion yn y fenter hon, maent hefyd yn ennill profiad gwasanaeth cwsmeriaid gwerthfawr ac yn datblygu eu sgiliau TG, gan y byddant yn cofnodi dosbarthiad a dychwelyd yr offer codi sbwriel.”

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus i ddod o hyd i Hyb Casglu Sbwriel yn eich ardal chi www.cadwchgymrundaclus.cymru/hybiau-casglu-sbwriel