Yr hyn a wnawn

Llesiant
Creadigol

LLESIANT CREADIGOL

Mae Awen wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglen o weithgareddau llesiant creadigol ar draws y meysydd rydym yn gweithio: Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Pontypridd ac Abertyleri.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, sefydliadau celfyddydau ac iechyd a gweithwyr creadigol llawrydd i gyflwyno amrywiaeth eang o brosiectau, perfformiadau a gweithdai sy’n hyrwyddo cydlyniad cymunedol ochr yn ochr â llesiant corfforol a meddyliol, gan gefnogi’r rhai hynny sydd â’r risg fwyaf o allgau cymdeithasol, ynysigrwydd ac anfantais.

Rydym ni’n credu bod creadigrwydd yn gynhenid ym mhawb, a bod y gallu i fanteisio ar gyfleoedd creadigol yn hawl dynol, a all wireddu hawliau dynol eraill drwy gyflawni’r gallu i fod yn unigolyn gan roi llais a chyfle teg i bawb.

Rydym yn ceisio cefnogi saith nod llesiant y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2016) o fewn y gwaith rydym yn ei gyflawni, gan gynnwys dathlu diwylliant ac iaith Gymraeg yn ei holl amrywiaeth.

Wrth weithio yn y celfyddydau ac iechyd, nod ein gwaith llesiant creadigol yw cael effaith gymdeithasol barhaus a sylweddol ar gymunedau, grwpiau ac unigolion, pan fo’n ymarferol gan eu cysylltu hefyd yn ôl i’n lleoliadau diwylliannol fel canolfannau creadigol hygyrch ar gyfer yr ardal leol.

Mae ein gwaith llesiant creadigol yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:
ynysigrwydd cymdeithasol; yr amgylchedd; hygyrchedd; addysg.

BYT Rent

Addysg

Wrth ymgysylltu ag ysgolion trwy gyfleoedd addysg greadigol o amgylch ein rhaglen artistig yn ein mannau diwylliannol a’r tu allan, byddwn hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion ddatblygu sgiliau ac ennill profiad galwedigaethol ar draws busnes theatr a’r celfyddydau perfformio, gan gyfrannu at ddatblygu talent leol a’r sector creadigol yng Nghymru drwy ddiwrnodau agored, gweithdai, gweithdai, hyfforddiant, rolau gwirfoddol a phrentisiaethau.

Ynysigrwydd Cymdeithasol

Trwy weithio gydag unigolion a chymunedau sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol ac yn ddiwylliannol trwy leoliad daearyddol, tlodi, anabledd, cyfrifoldebau gofalu neu rwystrau eraill, byddwn yn dod â chreadigrwydd yn uniongyrchol i gartrefi a phentrefi gan sicrhau mynediad rheolaidd i amrywiaeth eang o gyfleoedd celfyddydau fel cynulleidfa a chyfranogwyr.

Yr Amgylchedd

Byddwn yn cyflwyno perfformiadau, gweithdai a gosodiadau celfyddydau cyffrous mewn mannau cyhoeddus naturiol, gan archwilio themâu amgylcheddol a chysylltu celf a natur i gynyddu cyfleoedd i hybu llesiant a chysylltu cymunedau â’r awyr agored.

Hygyrchedd

Trwy ddileu rhwystrau i brofi ac ymgysylltu â’r celfyddydau creadigol, byddwn yn darparu cyfleoedd pwrpasol i bobl o bob oedran, diwylliant ac amgylchiadau i fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio, gan gynnwys blynyddoedd cynnar a theuluoedd ifanc , gofalwyr, pob f/Fyddar, anabl neu niwroamrywiol a’r rhai sy’n byw â dementia.