Yr hyn a wnawn

Llesiant Creadigol:
Ynysigrwydd Cymdeithasol

Doorbell Dances

Wrth Eich Drws

Mae Wrth Eich Drws yn brosiect partneriaeth rhagnodi cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar weithio gyda gofalwyr a’r rhai sydd â rhwystrau i fynd i leoliadau, drwy ddod â chwmnïau celfyddydau eithriadol at ei gilydd i ddarparu cyfleoedd celfyddydau perfformio amrywiol a rheolaidd a mwy i garreg drws y rhai hynny sydd â risg o ynysigrwydd cymdeithasol.

O gerddoriaeth theatr, ffilm i gomedi, wrth weithio gyda Kitsch n Synch, Hijinx, Live Music Now a Sol Cinema byddwn yn rhaglennu gweithgareddau celfyddydol sy’n cynyddu iechyd a llesiant wrth leihau unigrwydd.

The Lullaby Project

Dros brosiect wyth wythnos bydd rhieni a phlant yn elwa ar berfformiadau cerddoriaeth byw o ansawdd uchel wrth iddyn nhw greu atgof unigryw a hir-oes ar gyfer eu teulu a fydd yn cael effaith am genedlaethau. 

Dros brosiect wyth wythnos mae rhieni a phlant yn elwa ar berfformiad cerddoriaeth fyw o ansawdd uchel wrth iddynt greu atgof unigryw a pharhaol i'w teulu sy'n effeithio am genedlaethau.

Bydd teuluoedd yn rhannu cyngerdd byw gyda recordiad i’w gadw ar ddiwedd y prosiect. Mae’r rhaglen rhagnodi cymdeithasol hon yn defnyddio ymyraethau iechyd creadigol i gefnogi plant, oedolion a theuluoedd sy’n wynebu amgylchiadau heriol ac ynysigrwydd, gan geisio lleihau anghydraddoldeb iechyd ymhlith y rhai hynny sy’n wynebu tlodi, anghydraddoldeb hiliol a’r rhai ar aelwydydd un rhiant.

Lullaby Project

Lleisiau

Mae ein prosiectau Lleisiau yn defnyddio’r celfyddydau i ddathlu hanesion lleol ac unigol a rhoi llais i’r rhai hynny sy’n aml heb lais mewn cymdeithas, a’u cysylltu yn ôl i’w cymuned. Mae’r prosiect eisoes wedi gweithio gyda grwpiau ac unigolion amrywiol fel Men’s Shed Maesteg, Splice Child and Family Project, Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr, gofalwyr Dementia a mwy.

Wrth weithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol, caiff storïau eu cofnodi a’u hailadrodd trwy gân, llyfrau, ffilm a mwy sydd wedyn yn cael eu rhannu a’u dathlu ledled y gymuned.  

Mae prosiectau fel Lleisiau o’r tanddaear, Lleisiau o brofiad a Chaneuon o’r Nyth eisoes wedi cael effaith sylweddol.

Tu Allan Tu Mewn

Gan adeiladu ar ein gwaith mewn Cartrefi Gofal a’r rhai sy’n byw â dementia, mae Inside Outside yn brosiect realiti rhithwir sy’n tynnu’r byd tu allan yn ôl i mewn i gartrefi gofal trwy ddefnyddio technoleg fodern, gan alluogi trigolion i brofi lleoedd newydd a chyfarwydd eto heb orfod gadael cysur eu cadair freichiau.

Mewn partneriaeth â Colour Black Productions bydd ffilmiau penodol o leoedd a digwyddiadau lleol yn cael eu ffilmio gyda chamerâu 360 gradd, gan ddarparu profiad rhithwir ymgolli’n llwyr trwy ddefnyddio setiau pen realiti rhithwir.

Wrth ymgynghori â thrigolion mewn cartrefi lleol, rydym yn creu cronfa bwrpasol o ffilmiau y gellir eu defnyddio fel adnodd hirhoedlog, gan deilwra pob ffilm i gefndiroedd a diddordebau trigolion ar gyfer therapi cofio a mwy. Cliciwch yma i wylio fideo byr am y prosiect peilot.