Ein Heffaith

Ein Canlyniadau

Rydym yn darparu mannau a chyfleoedd i bobl fwynhau profiadau diwylliannol bywiog sy’n ysbrydoli ac sy’n cyfoethogi eu llesiant.

Rydym yn cydweithio ag eraill ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector er mwyn cyflawni gwell effaith a manteision cymdeithasol ar gyfer ein cwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy ein cyfleusterau, gweithgareddau a’n rhaglenni.

Rydym yn sefydliad ystwyth, cydnerth a grymus, sy’n canolbwyntio’n gadarn ar wella profiadau a chanlyniadau ar gyfer ein buddiolwyr.

Alan Morgan (Cadeirydd)
Richard Hughes, Prif Weithredwr

Ein Huchafbwyntiau

Bu ein hamcanion yn canolbwyntio ar yr effaith a’r canlyniadau mewn pum maes allweddol: atal, llesiant a chynhwysiant; cydraddoldeb; cyfleoedd bywyd gwell, dysgu a hybu annibyniaeth; heneiddio’n dda; lle ac economi.

Mae ein gwerthoedd – creadigol, cydweithredol, grymuso, teg – wedi eu hymgorffori ym mhopeth a wnawn, o sut yr ydym yn rhyngweithio gyda’n cwsmeriaid a phartneriaid i sut yr ydym yn rhyngweithio’n fewnol gyda chydweithwyr.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn ganolog i ddiwylliant Awen. Eleni rydym wedi datblygu partneriaethau newydd yn ogystal â chryfhau ein perthynas ag eraill, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cynghorau Tref Maesteg a Phorthcawl, Cyngor Celfyddydau Cymru, Tai Cymoedd i’r Arfordir, Canolfan Cydweithredol Cymru, Hamdden Halo a Freedom Leisure a Heddlu De Cymru; y rhain i gyd wedi ymrwymo i helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a gwneud bywyd yn well i bawb. Rydym wrth ein bodd o glywed y cawsom ein dewis gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn denant a gweithredwr a ffefrir ar gyfer Canolfan Gelfyddydau’r Muni, Pontypridd.

Rydym yn falch o’n gwaith o ganolbwyntio’n ddygn ar wella profiadau a chanlyniadau ein buddiolwyr wrth barhau i ddatblygu trefniadau llywodraethu cadarn. Y pwyslais pendant hwn ar ein buddiolwyr, o fewn a thu allan i’r sefydliad ynghyd â natur hyblyg a chydnerthedd y tîm arwain a bwrdd yr ymddiriedolwyr a alluogodd Awen i ymdrin ag effaith annisgwyl COVID-19 ers dyddiau cynnar mis Mawrth 2020. Mae Awen ers hynny wedi llywio’i ffordd drwy’r cyfnod o fesurau cynyddol drwy ddefnyddio cofrestr risgiau ddeinamig a chyfres o gamau gweithredu i sicrhau diogelwch ein gweithlu ac iechyd y sefydliad.

Llyfrgelloedd heb ddirwyon

Llyfrgelloedd Awen oedd y cyntaf yng Nghymru i ddileu pob dirwy am ddychwelyd llyfrau’n hwyr, mewn ymgais i wneud y gwasanaeth yn fwy hygyrch a dileu’r gofid neu’r cywilydd ynghylch talu cosbau ariannol gan annog mwy o bobl i aildanio eu perthynas â darllen a dysgu.

Ariannu Prosiectau

Defnyddiwyd cyllid prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ein rhaglen gyda chanlyniadau cymdeithasol penodol yn ogystal â darparu llwyfan ar gyfer gweithiau newydd ac artistiaid datblygol ym Mhafiliwn y Grand, Neuadd y Gweithwyr Blaengarw ac mewn llyfrgelloedd.

Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Dynodwyd Parc Gwledig Bryngarw yn safle Porth Darganfod ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru a dyfarnwyd £500,00 iddo i wella’r cyfleusterau a chyfoethogi profiad ymwelwyr.

B-Leaf A Wood-B

Diolch i Raglen Cyflogaeth Dan Gymorth B-Leaf a Wood-B cafodd un o’n hyfforddeion a fu yma’n gwasanaethu hiraf gyfle i gael lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd a chael y cyfle i ryngweithio gyda phobl newydd yn ddyddiol, a chafodd hyfforddai arall lwyddiant pan gafodd ei gyflogi yn rhan o’r tîm cynnal a chadw mewn cartref gofal lleol.

Cyflwyno Hyfforddiant Diwydiannau Creadigol

Parhaodd Awen i weithio mewn partneriaeth ag It’s My Shout a BBC Cymru i gyflawni ei chynllun hyfforddi blynyddol ar gyfer y diwydiannau creadigol, yn cynnwys ffilm fer a wnaethpwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac a ddarlledwyd ar BBC Cymru a S4C.

Ailddatblygu

Y gwaith ailddatblygu i drwsio, adfer ac ehangu Neuadd y Dref, Maesteg sydd mor annwyl i lawer, ym mis Hydref 2019. Roedd hwn yn cynrychioli un o’r buddsoddiadau unigol mwyaf yn y rhanbarth ac yn fuddsoddiad sylweddol yn natblygiad economaidd-gymdeithasol yr ardal.

Darparu Cyfleusterau Celfyddydau a Threftadaeth

Buom yn parhau i gefnogi gwaith Freedom Leisure yn darparu cyfleusterau ym meysydd y celfyddydau a threftadaeth yn Stafford, gan gynnwys Theatr y Gatehouse a Chastell Stafford.

Ymrwymiad i Gynaliadwyedd

Gwnaethom ddangos ein hymrwymiad i gynaladwyedd drwy osod goleuadau LED sy’n fwy effeithlon o ran ynni yn lle’r hen ffitiadau golau yn adeiladau Awen, yn cynnwys golau llwyfan Pafiliwn y Grand.

Llwyfan Hyfforddiant Ar-lein

Gwnaethom lansio llwyfan hyfforddi ar-lein, ‘Awen Learn’ a alluogodd staff i elwa ar 4500 o oriau hyfforddi a dysgu, cynnydd o 103% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.