Yr hyn a wnawn

Llesiant Creadigol:
Yr Amgylchedd

Theatr Awyr Agored

Mae tymor yr haf o theatr awyr agored ym Mharc Gwledig Bryngarw yn cynnwys perfformiadau addas i’r teulu cyfan ochr yn ochr â chlasuron lliwgar, gan ddarparu rhywbeth i bawb yn ein cyffiniau hygyrch a hardd.

Lle i Anadlu

Mewn partneriaeth â Tanio, ac yn rhan o’n rhaglen waith rhagnodi cymdeithasol, mae Lle i Anadlu yn lle creadigol cyfryngau cymysg ar gyfer datblygu iechyd a lles ochr yn ochr â’r gymuned.

Mae sesiynau wythnosol dan arweiniad artistiaid proffesiynol yn darparu man cathartig ar gyfer mynegi eich hun a thwf personol, yn aml o fewn neu’n agos i natur fel ein lle Y Nyth ym Mharc Bryngarw, Chanolfan Gymunedol Awel Y Môr ym Mhorthcawl.

Breathing Space
Bryngarw Country Park

Natur Iachusol

Gan weithio gyda Dr Leah Salter, Seicotherapydd Teuluol a Systemig sy’n gweithio gydag unigolion, cyplau a theuluoedd mae’r prosiect presgripsiynu cymdeithasol hwn yn cynnwys ysgrifennu creadigol, adrodd straeon, cerdded a siarad trwy'r mannau naturiol iachusol ym Mharc Bryngarw.

Gweithdai a Digwyddiadau

Mae datblygu celf mewn mannau pob dydd trwy ein prosiect Ffenestri Ffantastig a rhaglenni Celf Stryd yn rhan hanfodol o chwalu rhwystrau a datblygu cymunedau creadigol.

Mae Y Nyth - ein canolfan addysg ym Mharc Gwledig Bryngarw yn fan hyfryd lle rydym yn cynnal ystod o weithdai untro mewn meysydd fel celf a ffotograffiaeth, yn ogystal â pherfformiadau therapiwtig gan gysylltu’n ôl i natur fel ‘Telyn yn y Parc’ sy’n dathlu’r amgylchedd naturiol ochr yn ochr ag offeryn traddodiadol Cymru.

Mae haf ar y lawnt yn cynnwys gweithgareddau llesiant creadigol eraill o faddonau gong i theatr untro â themâu amgylchedd a mwy. Mae teithiau stori a gosodiadau celf trwy goedwigoedd Bryngarw ar gael hefyd, ac mae llawer o’r digwyddiadau hyn yn digwydd mewn parciau ger ein lleoliadau eraill hefyd ym Maesteg, Blaengarw ac Abertyleri.