Amdanom ni

Yr hyn a wnawn

Rydym yn gweithredu ystod o gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol, gan gynnwys theatrau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, plasty a pharc gwledig a dau brosiect seiliedig ar waith ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

Theatrau

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn rheoli tair theatr boblogaidd: Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, Neuadd y Gweithwyr Blaengarw a'r Metropole (Met) yn Abertyleri.

Parhaodd y cynnydd ar ailddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd yn Neuadd y Dref Maesteg a Sicrhawyd Cyllid Lefelu i Fyny ar gyfer gwaith adnewyddu mawr ar y Miwni ym Mhontypridd.

Gan weithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, gallwn gysylltu, cryfhau a chefnogi cymunedau trwy ymgysylltu â phrofiadau celfyddydol a diwylliannol

Awen Warm Welcome | Croeso Cynnes

LLESIANT CREADIGOL

Gan weithio o fewn y celfyddydau ac iechyd, mae ein gwaith llesiant creadigol yn ceisio cael effaith gymdeithasol sylweddol a pharhaus ar gymunedau, grwpiau ac unigolion. 

Rydym yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2016) o fewn y gwaith rydym yn ei gyflawni, gan gynnwys dathlu ein diwylliant a’n hiaith Gymreig ffyniannus yn ei holl amrywiaeth. Mae ein gwaith llesiant creadigol yn canolbwyntio ar bedwar prif faes: ynysu cymdeithasol, yr amgylchedd, mynediad ac addysg.

Llyfrgelloedd

Mae Awen yn rheoli chwe llyfrgell amser llawn yn uniongyrchol, dwy lyfrgell gymunedol ran-amser a gwasanaeth dosbarthu i’r cartref Llyfrau ar Glud ledled Pen-y-bont ar Ogwr. 

Rydym hefyd yn cefnogi ac yn stocio dwy lyfrgell gymunedol mewn lleoliadau sy'n cael eu staffio a'u rheoli gan Halo Leisure ac yn rheoli cronfa lyfrau fawr. Mae ein hadnodd Hanes Lleol a Theuluol ym Maesteg yn gartref i gasgliad sylweddol o ddeunyddiau ymchwil.

Ty a Pharc Gwledig Bryngarw

Ymddangosodd Bryngarw gyntaf yng nghofnodion tir 1569 a chredir i’r Plas gael ei adeiladu yng nghanol y 1700au gan deulu Popkin o Forgannwg. 

Agorwyd Bryngarw yn swyddogol i’r cyhoedd fel parc gwledig ym mis Mai 1986. Ers hynny mae wedi ennill llawer o anrhydeddau gan gynnwys statws y Faner Werdd a Threftadaeth Werdd, gan ei gydnabod fel un o fannau gwyrdd gorau’r DU.

B-Dail a Pren-B

Yn B-Leaf a Wood-B rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol, seiliedig ar waith mewn garddwriaeth, cynnal a chadw tiroedd a gwaith coed.

Mae ein hyfforddeion yn cael eu cefnogi gan dîm o staff ymroddedig a phrofiadol sy'n eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd ar eu cyflymder eu hunain, gwneud ffrindiau newydd a theimlo'n rhan o gymuned, a byw bywydau mwy annibynnol a bodlon. 

B-Leaf and Wood-B
Awen Community Centres

Canolfannau Cymunedol Awen

Mae Awen yn rheoli dwy ganolfan gymunedol – Awel-y-Môr ym Mhorthcawl a Chanolfan Fywyd Betws – sy’n lleoliadau llogi preifat a ddefnyddir yn aml ac sy’n cynnig mannau fforddiadwy ar gyfer ystod eang o grwpiau cymdeithasol a ffitrwydd, digwyddiadau a gweithgareddau.