Yr hyn a wnawn

Canolfannau Cymunedol Awen

Canolfannau Cymunedol Awen

Mae Awen yn rheoli dwy ganolfan gymunedol – Awel-y-Môr ym Mhorthcawl a Chanolfan Fywyd Betws – sy’n lleoliadau llogi preifat a ddefnyddir yn aml ac sy’n cynnig mannau fforddiadwy ar gyfer ystod eang o grwpiau cymdeithasol a ffitrwydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Awen Community Centres

AWEL-Y-MOR

Wedi’i lleoli yng nghanol Porthcawl, mae canolfan gymunedol Awel-Y-Môr yn lleoliad a ddefnyddir yn aml sy’n cynnig gofod fforddiadwy ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Gyda thair ystafell, mae gan y ganolfan gymunedol hon ddigon o le ar gyfer nifer o weithgareddau, boed yn ddosbarthiadau dawns, cyfarfodydd, clybiau crefft neu grwpiau plant bach.

Canolfan Fywyd Betws

Wedi'i lleoli yng nghanol Betws, mae Canolfan Fywyd Betws yn lleoliad amlbwrpas i drigolion, a'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd.

Mae'r adeilad yn cynnwys nifer o fannau agored, sydd i gyd ar gael i'w llogi neu eu rhentu, am bris fforddiadwy.