Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn Awen, rydym yn darparu cyfweliad gwarantedig i ymgeiswyr sy’n bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer swydd ac sy’n anabl neu’n bobl o’r Mwyafrif Byd-eang.

Gallwch ofyn am gael eich ystyried o dan ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad os ydych yn berson o’r Mwyafrif Byd-eang neu os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol. Ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, a nodir yn yr amlinelliad swydd, byddwch yn cael eich gwahodd am gyfweliad. Dim ond gyda thîm Pobl Awen a'r rheolwr recriwtio y bydd eich cais gwarant am gyfweliad yn cael ei rannu.