Mae Bwrdd Awen yn gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol yr elusen gofrestredig, ac ar y cyd yn cynnig ystod o sgiliau, profiad a gwybodaeth gymunedol sy'n eu galluogi i ddarparu arweinyddiaeth a llywodraethu da.

Yn gymrawd o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, mae Liz wedi treulio dros 25 mlynedd yn gweithredu ar lefel uwch reolwyr ac wedi gweithio yn y sector elusennol, gan gynnwys Gofal Canser Tenovus, am y 15 mlynedd diwethaf.

Mae Liz yn dal rôl weithredol yn Chwarae Teg, sefydliad y mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf ag ef, trwy ei raglenni datblygu Cenedl Hyblyg 2 a Cham at Anweithredol.

Dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Richard Hughes:

“Mae Liz yn dod â chyfoeth o brofiad o’r sectorau preifat a dielw i’r rôl hon. Bob blwyddyn, mae ein helusen yn cyffwrdd â bywydau dros filiwn o bobl trwy ein theatrau, llyfrgelloedd, parciau gwledig, canolfannau cymunedol a phrosiectau i oedolion ag anableddau, ac mae Liz yn dod â’r hygrededd a’r angerdd sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r buddiolwyr hyn. Edrychwn ymlaen at groesawu Liz i’n Bwrdd ac elwa o’i mewnbwn.”

Wrth siarad am ei phenodiad, ychwanegodd Liz:

“Ganed a magwyd ym Mhort Talbot, treuliais lawer o brynhawn ym Mharc Gwledig Bryngarw wrth fagu fy mhlant. Cofrestrais fy niddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr ar ôl clywed popeth da am Awen ers ei sefydlu. Rwy’n credu’n fawr mewn dod â’r gymuned ynghyd a chredaf y gall fy ystod eang o sgiliau helpu i symud Awen ymlaen. Edrychaf ymlaen at ymuno â’r Bwrdd.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Toni Cosson, Rheolwr Marchnata a Datblygu ar 01656 815991 neu e-bostiwch toni.cosson@awen-wales.com