Mae ein sefydliad partner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, wedi cyhoeddi bod y gwaith o ailddatblygu'r Miwni, sy'n werth miliynau o bunnoedd, bellach ar y gweill yn swyddogol! Mae contractwyr wedi dechrau ar y gwaith o adfywio'r lleoliad poblogaidd ym Mhontypridd a'i ailagor yr haf nesaf.

Adeiladwyd y Miwni Rhestredig Gradd II, yng nghanol Pontypridd, yn wreiddiol mewn arddull gothig fel Capel Wesleaidd yn 1895 – ac yn y blynyddoedd diweddarach datblygodd hanes cyfoethog fel canolbwynt celfyddydau a cherddoriaeth rhanbarthol. Yn 2019, cyhoeddodd y Cyngor gynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer prosiect adnewyddu mawr, gyda’r nod o ailsefydlu’r Muni fel lleoliad celfyddydol poblogaidd gyda dyfodol cynaliadwy.

Bydd Awen yn gweithredu Y Muni yn dilyn ei ailddatblygu – gan ddefnyddio ein cyfoeth o brofiad o redeg ystod o gyfleusterau diwylliannol. Sicrhaodd y prosiect £5.3m o gyllid o rownd gyntaf Cronfa Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU ar ddiwedd 2021.

Yn dilyn gwaith sylweddol y tu ôl i'r llenni i gwblhau cam dylunio'r prosiect ac i gael yr holl ganiatâd statudol gofynnol, cychwynnodd contractwr penodedig y Cyngor, Knox and Wells, y gwaith mewnol cyntaf ar y safle yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun, Medi 4.

Bydd yr ailddatblygiad yn darparu lleoliad digwyddiadau amlbwrpas a chwbl hygyrch a fydd yn cynnig rhaglen amrywiol o gerddoriaeth fyw a sinema digwyddiadau, ynghyd â chyfleusterau bar i gefnogi'r economi hamdden a nos leol.

Bydd y gwaith yn cynnwys cadwraeth a thrwsio'r lleoliad, gyda'r prosiect wedi'i gynllunio i ddatgelu pensaernïaeth gothig syfrdanol yr adeilad. Bydd yr awditoriwm yn cael ei adnewyddu tra bydd y cyntedd mynediad, y bar a'r ardaloedd mesanîn yn cael eu hailfodelu. Bydd lifftiau, toiledau, ystafelloedd newid a chyfleuster Changing Place yn cael eu gosod, ynghyd â gwelliannau cysylltiedig i ardaloedd cefn tai.

Y Cynghorydd Bob Harris, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, Meddai: “Rwy'n falch iawn bod y prif waith adeiladu i ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau'r Miwni bellach wedi dechrau – sy'n cynrychioli tirnod mawr ar gyfer dod â'r lleoliad yn ôl i ddefnydd. Bydd y prosiect cyffrous yn gwella nodweddion gwreiddiol a threftadaeth y lleoliad, tra'n sicrhau ei fod yn lleoliad diwylliannol addas i'r pwrpas sy'n cwrdd ag anghenion y gymuned.

“Mae dyluniad y prosiect wedi canolbwyntio ar y ddau ganlyniad hyn - gwarchod a, lle bo'n bosibl, amlygu nodweddion yr adeilad gwreiddiol, tra'n sicrhau bod gan y Miwni ddyfodol cynaliadwy fel canolbwynt diwylliannol. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos iawn gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sydd â hanes rhagorol o redeg lleoliadau o'r fath. Mae hefyd yn addas iawn mai’r contractwr penodedig Knox and Wells hefyd oedd y cwmni a adeiladodd yr eglwys wreiddiol ym 1895.

“Mae ailddatblygiad y Miwni yn un o nifer o brosiectau adfywio cyffrous ar gyfer Pontypridd, yn dilyn cyflwyno Llys Cadwyn, cyfleuster Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf ac YMa (YMCA Pontypridd) yn ddiweddar. Mae nifer o brosiectau allweddol hefyd ar y gweill yng Nghynllun Creu Lle Pontypridd – gan gynnwys y prosiect plaza glan yr afon yn adeilad M&S, darparu parth cyhoeddus o ansawdd uchel ar safle’r neuadd bingo, a buddsoddiad pellach ar draws Parc Coffa Ynysangharad.

“Bydd y Cyngor yn darparu diweddariadau i drigolion wrth i brosiect Canolfan Gelfyddydau’r Miwni fynd rhagddo ar y safle yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau yn ystod haf 2024, a fydd mewn pryd i gael ei ddefnyddio’n lleoliad allweddol pan fydd Pontypridd yn falch o groesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru.”