Bydd planhigion gwely’r haf a basgedi crog ar werth yn B-Leaf o ddydd Mercher 24ed Mai.

Bydd amrywiaeth eang o blanhigion, blodau a llwyni ar werth, yn ogystal â basgedi crog o wahanol feintiau.

Mae rhestr brisiau 2023 ar gael i'w gweld yma.

O ddydd Mercher 24ed Mai tan Sul 2dd Gorffennaf, bydd B-Leaf ar agor o 9am tan 4pm, o ddydd Llun i ddydd Sul, ac eithrio’r wythnos sy’n dechrau dydd Llun 29ed Mai i Sul 4ed Mehefin pan fydd yr oriau agor rhwng 10am a 4pm.

Mae B-Leaf wedi’i leoli ar dir Parc Gwledig Bryngarw, ewch tuag at Dŷ Bryngarw a bydd arwyddion yn eich arwain i’r chwith i mewn i’r maes parcio.

Mae elw o'r gwerthiannau hyn yn cael ei ail-fuddsoddi gan Awen mewn prosiectau sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu.