Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tlodi data ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, drwy ddosbarthu data symudol am ddim a chardiau SIM i bobl sydd eu hangen, a chynnig hyfforddiant sgiliau digidol am ddim yn ei llyfrgelloedd.

Cefnogir y fenter hon gan y Banc Data Cenedlaethol, a sefydlwyd gan Virgin Media 02, Good Things Foundation ac arbenigwyr cynhwysiant digidol eraill gan gynnwys Trefnwyr Cymunedol, Operation Wifi, Hubbub a Nominet. Eu nod yw helpu dros 200,000 o bobl ledled y DU i gysylltu erbyn diwedd 2023.

Tlodi data yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio ‘unigolion, cartrefi neu gymunedau na allant fforddio data symudol neu fand eang digonol, preifat a diogel i ddiwallu eu hanghenion hanfodol’ (Nesta, 2021). Nododd astudiaeth yn 2022 gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru fod achosion tlodi data yn cynnwys: anfantais rhwystrau i wasanaethau; cysylltedd gwael; incwm isel; teuluoedd mwy yn cynhyrchu anghenion data uchel; a diffyg llythrennedd ariannol a digidol.

Bydd cydweithwyr yn Llyfrgelloedd Awen fel Sarn, a reolir mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Llansanffraid Bach a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn dosbarthu hyd at 50 o gardiau SIM am ddim gyda data diderfyn bob mis i gwsmeriaid, nid oes angen prawf modd. Byddant hefyd yn darparu cymorth digidol un-i-un am ddim ar bopeth o argraffu, sefydlu cyfrifon e-bost a chwilio am swyddi, i drefnu apwyntiadau ar-lein, talu biliau a lawrlwytho apiau.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan arwyddocaol wrth helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau digidol a mynediad hanfodol at wasanaethau ar-lein drwy wella sgiliau llythrennedd digidol a mynediad at dechnoleg, felly rwy’n arbennig o falch o fod yn rhan o’r fenter Banc Data Cenedlaethol hon. Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth digidol i fynd i'w llyfrgell leol a gwneud defnydd o'r cardiau SIM rhad ac am ddim sydd ar gael gennym. Gallwch fod yn sicr o groeso cynnes a dim barn o gwbl.”

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Mân Sain Ffraid, y Cynghorydd Martin Williams:

“Mae Llyfrgell Sarn wrth galon ein cymuned, gan ddarparu ystod o wasanaethau hanfodol. Yn ein hoes gynyddol ddigidol mae’n hawdd i’r rhai nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd a gwasanaethau digidol eraill gael eu hallgáu. Mae'r cyngor cymuned felly yn gwbl gefnogol i'r fenter hon a fydd yn sicrhau mynediad i wasanaethau digidol i bawb yn Sain Ffraid. Mae’r cyngor cymuned wedi bod mewn partneriaeth ag Awen ers blynyddoedd ac edrychwn ymlaen at barhau i gryfhau ein perthynas ag Awen dros y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol:

“Mewn partneriaeth ag Awen, rydym yn falch o gymryd rhan mewn chwalu’r rhwystrau sy’n atal pocedi o’n cymuned rhag hygyrchedd digidol.

“Mae ein llyfrgelloedd ar flaen y gad yn y fenter hon, gyda nhw’n darparu cymorth amhrisiadwy o ran cyngor a hyfforddiant digidol, yn ogystal ag adnoddau digidol.

“Wrth weithio gyda’n gilydd, gallwn edrych ymlaen at gymdeithas ddigidol gynhwysol.”

Ffotograff a dynnwyd yn Llyfrgell Sarn: Helen Pridham, Rheolwr Gweithrediadau ac Arloesedd Llyfrgelloedd, a’r Cynghorydd Mark John, Is-Gadeirydd, Cyngor Cymuned Mân Sain Ffraid