Yn Awen, rydym wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy. Rydym wedi ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd. Erbyn Ionawr 2024 byddwn yn:

  • Cynyddu cyfran y cyflenwyr sydd wedi'u lleoli yn Ne Cymru;
  • Adolygu ac addasu rhestr eiddo i flaenoriaethu ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni ac effeithlonrwydd dŵr;
  • Lleihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi drwy osod targedau a hyfforddi staff ar bwysigrwydd yr hierarchaeth wastraff a gosod targedau;
  • Gweithio gyda'r gymuned leol i ddarparu cyfleoedd i grwpiau ddysgu sgiliau newydd;
  • Creu cynllun i ddechrau mesur allyriadau carbon (ee o ddefnydd ynni, gwastraff a gynhyrchir, trafnidiaeth); a
  • Cyhoeddi polisïau amgylcheddol a chrynodeb o gynllun gweithredu ar ein gwefan.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a gwefan i ddarganfod sut rydym yn dod ymlaen!

#GGreenGrowthPledge #AddewidTwfGwrdd #SustainableBusiness #Ssustainability