Mae Sialens Ddarllen Fach Gaeaf 2022, a gyflwynir gan The Reading Agency mewn partneriaeth â Science Museum Group, yn cael ei lansio ar draws Llyfrgelloedd Awen heddiw.

Gwelodd Sialens Ddarllen yr Haf 2022 filoedd o blant yn darllen ac yn archwilio gwyddoniaeth ac arloesi fel rhan o thema Gadgeteers eleni. Nawr ei bod hi'n oeri a gwyliau'r Nadolig yn agosáu, mae'r Sialens yn dychwelyd gyda thema aeafol ar gyfer arbrofion llawn hwyl ac anogaeth i ddarllen.

I gwblhau Sialens Ddarllen Fach y Gaeaf, bydd angen i blant ymweld â'r llyfrgell am dri. Bydd llawer o wobrau i’w hennill, gan gynnwys tystysgrifau a medalau i’r rhai sy’n ei chwblhau erbyn 20 Chwefror 2023.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.awen-libraries.com.