Mae coed Nadolig o Goed Nadolig Ffres Gŵyr arobryn wedi cyrraedd B-Leaf yn barod i fynd ar werth o ddydd Sadwrn 26 Tachwedd.

Y coed eleni yw'r math Ffynidwydd Fraser ac mae'r prisiau'n amrywio o £22.50 i £46. Bydd Poinsettia hefyd ar gael i'w brynu am £5.50. Mae elw o'r gwerthiannau hyn yn cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

Mae'r amseroedd agor fel a ganlyn:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener – 9am i 4pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul (tan 18 Rhagfyr) – 10am i 4pm

Cyfarwyddiadau: dilynwch y ffordd i mewn i Barc Gwledig Bryngarw, heibio’r ganolfan ymwelwyr a thuag at Dŷ Bryngarw, bydd arwyddion ar yr ochr chwith yn eich arwain i faes parcio B-Leaf.