Yn B-Leaf a Wood-B rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol, seiliedig ar waith mewn garddwriaeth, cynnal a chadw tiroedd a gwaith coed.

Mae ein hyfforddeion yn cael eu cefnogi gan dîm o staff ymroddedig a phrofiadol sy'n eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd ar eu cyflymder eu hunain, gwneud ffrindiau newydd a theimlo'n rhan o gymuned, a byw bywydau mwy annibynnol a bodlon. Caiff pob hyfforddai gynllun datblygiad personol, gan gynnwys cyfleoedd i fynychu cyrsiau gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, hyfforddiant teithio a lleoliadau gwaith am ddim neu â thâl.

Byddwn yn cynnal Diwrnod Gwybodaeth anffurfiol rhad ac am ddim yn B-Leaf ym Mharc Gwledig Bryngarw, CF32 8UU o 10am tan 2pm ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2022. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.