Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o safon.

Mae cyfanswm o 183 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei hangen i dderbyn Gwobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd.

Bydd y Faner yn chwifio ym Mharc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn i gydnabod ei gyfleusterau rhagorol a’i ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy’n rhedeg Bryngarw:

“Mae’n gamp wych i Fryngarw gadw ei Faner Werdd am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r wobr yn amlygu bod pobl Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt yn elwa o fan gwyrdd hardd gyda nodweddion naturiol a chyfleusterau gwych i bawb eu mwynhau. Yn Awen, rydym wedi ymrwymo i wella bywydau pobl trwy ddarparu'r gweithgareddau a'r cyfleoedd diwylliannol gorau oll. Mae ennill ail wobr yn ein hail flwyddyn o weithredu yn dyst i bawb sy’n cefnogi’r Parc ac yn helpu i’w wneud yn lle gwych i ymweld ag ef.”

Mae cynllun Gwobr y Faner Werdd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Fe’i beirniadir gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sy’n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd ymgeisiol a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae Gwobr y Faner Werdd yn ymwneud â chysylltu pobl â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau oll. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn falch o redeg y cynllun yng Nghymru oherwydd gwyddom y gall cael amgylchedd o ansawdd da gael effaith fawr ar ein cymunedau, iechyd a lles, a’n heconomi.

“Hoffwn longyfarch Parc Gwledig Bryngarw a diolch i bawb sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y safonau a fynnir gan Wobr y Faner Werdd. Byddwn yn annog pawb i fynd allan ac archwilio’r ystod amrywiol o gyfleusterau gwych sydd gennym ar garreg ein drws.”

[:]