Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn chwilio am berfformwyr amatur Cymraeg eu hiaith rhwng 18-25 oed ar gyfer eu cynhyrchiad newydd sydd ar ddod. Gwlad Gwlad.

Gwlad Gwlad yn archwilio straeon go iawn a chysylltiadau personol ag anthem genedlaethol Cymru.

Wedi’i ysgrifennu gan y dramodydd Christopher Harris, gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr Stacey Blythe, bydd y darn yn cael ei gyfarwyddo gan Harvey Evans.

Gwlad Gwlad yn cael ei pherfformio yn Yma, Pontypridd ym mis Awst fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd dwy sesiwn Ymchwil a Datblygu ar 8ed a 22dd Mai. Mae ymarferion yn cychwyn ar 15fed Gorffennaf gyda’r cynhyrchiad yn cael ei berfformio ar benwythnos agoriadol yr Eisteddfod – 4ydd a 5ed Awst.

Dyma gyfle di-dâl fel rhan o raglen Lansiad Awen o gyfleoedd perfformio a chefnogaeth artistig i berfformwyr ifanc sy’n datblygu tuag at yrfa actio broffesiynol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Pedro Gardiner, Cynhyrchydd Creadigol ar 07543 311742 neu e-bostiwch pedro.gardiner@awen-wales.com.

Dyddiad cau: 12ed Ebrill 2024.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.