Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect Celfyddydau Awyr Agored ar gontract llawrydd tymor byr i'n cefnogi i ddarparu amrywiaeth o berfformiadau a digwyddiadau celfyddydau awyr agored ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ffi: £2,500 am hyd at 12 diwrnod o waith rhwng Mai-Rhagfyr (hyblyg).

Gan adrodd i’n Rheolwr Llesiant Creadigol, byddwch yn cysylltu ag artistiaid, adrannau trwyddedu’r cyngor, tîm marchnata Awen, staff a gwirfoddolwyr. Byddwch yn cefnogi gwaith o fewn canol trefi, pentrefi a pharciau yn ôl y cyfarwyddyd.

Bydd prosiectau yn croesi pob ffurf ar gelfyddyd ac yn amrywio o berfformiadau agos atoch, cyfranogol i ddigwyddiadau ar raddfa fawr. Mae digwyddiadau yn aml am ddim a gallant ddenu cynulleidfaoedd amrywiol bach i fawr, sy'n cynrychioli'r ddemograffeg leol. Byddwch yn gyfrifol am rywfaint o waith rheoli prosiect cyn y digwyddiad yn ogystal ag arwain neu gynorthwyo gyda chyflwyno amser real ar lawr gwlad.

Mae sgiliau rheoli prosiect rhagorol a phrofiad o gyflwyno digwyddiadau celfyddydau awyr agored yn hanfodol. Rydym yn annog ceisiadau gan y rhai sy’n nodi eu bod yn f/Byddar, yn anabl, yn niwroamrywiol, yn queer/trans neu’n rhan o’r mwyafrif byd-eang.

Gwnewch gais trwy e-bost/llythyr eglurhaol, neu fideo byr yn amlinellu eich profiad os yw'n well gennych. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad neu gefnogaeth.

Anfonwch eich cais at Nicola Edwards, Rheolwr Llesiant Creadigol, nicola.edwards@awen-wales.com, erbyn 20 Ebrill 2024.

Ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn partneriaeth â Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.