A ydych yn rhagweithiol, yn barod i herio a gwneud penderfyniadau o ansawdd uchel wrth fynd ar drywydd amcanion elusennol Awen ac i gefnogi ein buddiolwyr?

Gan fod nifer o ymddiriedolwyr presennol yn nesáu at ddiwedd eu cyfnod yn y swydd, rydym am benodi unigolion newydd a all ymrwymo a chyfrannu at ddyfodol ein sefydliad.

Mae ein hymddiriedolwyr yn cynnig ystod eang o sgiliau, priodoleddau, profiad byw a gwybodaeth gymunedol sydd gyda’i gilydd yn eu galluogi i ddarparu arweinyddiaeth, cyfeiriad strategol a llywodraethu da.

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr a all gryfhau’r bwrdd ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rhai sydd â sgiliau a phrofiad arbennig (gweithio neu fyw) yn y meysydd canlynol:

  • Celfyddydau
  • Gofal cymdeithasol
  • Iechyd
  • Menter gymdeithasol
  • Cyfreithiol
  • Rheolaeth ariannol
  • Arweinyddiaeth busnes
  • Tegwch a chynhwysiant

I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho ein Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr, cliciwch yma.