Ymwelodd y Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Gweinidog dros Newid Hinsawdd Julie James MS â Pharc Gwledig Bryngarw yr wythnos diwethaf i gyhoeddi ei statws fel Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i greu gofod coetir ym Mharc Gwledig Bryngarw sy’n esiampl i eraill ei ddilyn.

Bydd y Goedwig Genedlaethol, a fydd yn ymestyn ar hyd a lled Cymru yn y pen draw, yn cynnwys creu ardaloedd newydd o goetir ac yn helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol Cymru.

Bellach mae 41 o safleoedd coetir sy’n rhan o rwydwaith Coedwig Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys 26 sy’n rhan o ystâd Llywodraeth Cymru, sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rwy’n falch iawn o weld cymaint o gymunedau yn ymwneud â’r Goedwig Genedlaethol. Bydd yr ehangiad yn cyfrannu at greu coetir parhaus yn ymestyn o’r gogledd i’r de, o’r gorllewin i’r dwyrain, gan ddod â buddion amgylcheddol, iechyd a llesiant hirdymor i bob cornel o Gymru. Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu ased parhaus, tebyg i’n Llwybr Arfordir Cymru, sy’n darparu llawer o fanteision, nid yn unig i’n poblogaeth heddiw, ond i genedlaethau i ddod.”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd:

“Wrth i Goedwig Genedlaethol Cymru ehangu, felly hefyd ei rhwydwaith a’i chymuned. Mae rhoi statws Coedwig Genedlaethol yn cydnabod y gwaith caled y mae cymaint o bobl a sefydliadau, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr, wedi'i fuddsoddi mewn creu mannau coetir enghreifftiol.

“Rwy’n falch o groesawu’r coetiroedd newydd i’r Goedwig Genedlaethol, a fydd yn helpu i gefnogi bioamrywiaeth ac ymladd newid yn yr hinsawdd, tra’n creu cyfleoedd gwirioneddol i bobl yng Nghymru ail-gysylltu â choed, coetiroedd a natur.”

Dywedodd Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r angen i gynorthwyo adferiad byd natur yn fater brys ac mae creu a gwella coetiroedd yn un o’r pethau gorau y gallwn ei wneud yng Nghymru i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Bydd Coedwig Genedlaethol Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at yr ymateb hwnnw, mewn ffordd sy’n gweithio i bobl ac i natur.”