Mae cynlluniau i adnewyddu'r Miwni poblogaidd ym Mhontypridd, gan ddefnyddio'r £5.3m a sicrhawyd o rownd gyntaf Cronfa Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU, wedi cyrraedd carreg filltir arall yn ei chyflawni.

Mae elfennau dylunio terfynol yr adeiladau rhestredig Gradd II wedi'u cwblhau gan Purcell, mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a sefydliad partner Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, fel rhan o broses Cam 3 Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Unwaith y bydd yr argymhellion wedi’u cymeradwyo, bydd y prosiect yn symud i Gam 4 RIBA ac, yn amodol ar sicrhau’r holl ganiatâd statudol angenrheidiol, bydd y gwaith o ailddatblygu’r lleoliad yn dechrau yr haf hwn.

Nod yr ailddatblygiad yw gwarchod treftadaeth y Miwni a dathlu ei phensaernïaeth gothig syfrdanol trwy amlygu'r trawstiau nenfwd gwreiddiol yn y brif neuadd a llawer o'r ffenestri sydd wedi'u blocio ar hyn o bryd.

Bydd y Miwni ar ei newydd wedd yn gwbl hygyrch a chynhwysol, gyda lifft i bob llawr gan gynnwys y balconi, a gwell darpariaeth toiledau gan gynnwys cyfleuster Changing Places.

Bydd y prosiect yn darparu lleoliad sy’n cynnig rhaglen broffesiynol o gerddoriaeth fyw a sinema digwyddiadau, gyda chyfleusterau bar i gefnogi’r economi hamdden a nos leol.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Harris, Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo ar ailddatblygu’r Miwni, ac mae’n gadarnhaol gweld y prosiect yn symud yn nes at y cam ‘sgidiau ar lawr gwlad’ y mae llawer o drigolion yn gyffrous i’w weld yn digwydd.

“Rydym wedi ymrwymo i ailddatblygu’r Miwni gyda’n partneriaid Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy. Bydd yr ailddatblygiad yn gweld y Miwni yn dod yn fyw unwaith eto fel cyrchfan cerddoriaeth a digwyddiadau o'r radd flaenaf yn Ne Cymru er mwynhad trigolion ac ymwelwyr.

“Mae’r gwaith cwblhau ar y trywydd iawn ar gyfer Haf 2024, jyst mewn pryd i Rondda Cynon Taf groesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sy’n denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Ni allwn aros i weld y miloedd o bobl sy'n ymweld â Rhondda Cynon Taf yn mwynhau'r lleoliad newydd.”

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae’r ailddatblygiad hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adfer y Miwni fel un o leoliadau cerddoriaeth a digwyddiadau gorau De Cymru. Fel gyda phob prosiect o'r maint hwn, mae cymaint sy'n mynd i mewn i'r gwaith dylunio cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle. Mae’n wych cael y cyfle i ddefnyddio popeth rydym wedi’i ddysgu gan y gymuned i helpu i gefnogi’r broses a llunio dyluniad sy’n bodloni ein gweledigaeth tra ar yr un pryd yn gweithio o fewn y cyllid sydd ar gael i ni.”