Cafodd disgyblion benywaidd o Ysgol Gyfun Maesteg gyfle i godi llais ym mis Mawrth eleni fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Menywod Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Gan weithio gyda’r gantores gyfansoddwraig broffesiynol West Wales Americana/Folk Lowri Evans, ymunodd deuddeg o ddisgyblion o Flynyddoedd 8 a 12 i greu cân newydd yn cydnabod yr anawsterau a wynebir gan fenywod dros genedlaethau, tra’n dathlu eu cryfderau gyda gobaith am y dyfodol.

Yn rhan o ddathliadau tair can mlynedd Dr Richard Price ar draws Pen-y-bont ar Ogwr eleni, eiriolwr cynnar dros hawliau cyfartal i bawb, gyda chefnogaeth Swyddog Treftadaeth Awen, Stefanie Vanstokkom, dysgodd disgyblion am hanes cyfoethog y swffragetiaid ym Maesteg, gyda Sylvia Pankhurst a’i mam. Roedd Emmeline wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn Neuadd y Dref ar ddechrau'r 1900au. Bu’r moesolwr a’r gwleidydd mawr Richard Price, a oedd yn wreiddiol o Langeinwyr hefyd yn ddylanwad mawr ar ysgrifau ei gyfaill Mary Wollstonecraft, a ystyrid y ffeminydd cyntaf gyda chyhoeddiad ei llyfr ‘A vindication of the rights of women’ yn 1792.

O’r drafodaeth gychwynnol hon ar hanes daeth archwiliad o hunaniaethau a phrofiadau benywaidd o fewn y byd heddiw, gyda disgyblion yn gallu rhannu eu profiadau a’u meddyliau eu hunain, pob un ohonynt wedi’u hau i mewn i greu geiriau cyfoethog, gan roi llais iddynt trwy gerddoriaeth. Gyda’r disgyblion iau yn cefnogi Lowri yn lleisiol, mae’r disgyblion hŷn yn cyfrannu’n offerynnol, ar ôl dechrau eu band eu hunain. Cafodd y trac ei hun ei recordio’n broffesiynol gyda disgyblion yr ysgol diolch i gefnogaeth gan Cobra Music a bydd yn cael ei ryddhau i’r cyhoedd dros fis Mawrth.

Roedd perfformiad cyntaf o’r gân i fod i gael ei gynnal yn yr ysgol heddiw ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched ond bydd yn cael ei aildrefnu oherwydd y tywydd garw. Bydd cyngerdd rhad ac am ddim gan Lowri Evans, oedd i fod i gael ei gynnal yn Llyfrgell Maesteg y prynhawn yma hefyd yn cael ei aildrefnu.

Soniodd Libby ac Olivia, myfyrwyr blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Maesteg am ba mor gyffrous oedd gweithio ar y prosiect a chael profiad proffesiynol ym maes cerddoriaeth:

“Rwy’n teimlo bod y geiriau yn sentimental iawn i ni fel merched, yn gallu eu canu’n rhydd heddiw heb unrhyw farn. Maent yr un mor berthnasol i'r swffragetiaid ag y maent i ferched heddiw. Mae’r ffaith fy mod i wedi gallu canu a mynegi sut rydw i’n bersonol yn teimlo fel menyw am hawliau menywod mor bwysig. Mae pob merch yn cydnabod bod menywod mewn cymdeithas yn ei chael hi’n anodd ac os gwrandewch ar y gân mae’n rhoi ymdeimlad o rymuso – gallwch chi fod a gwneud beth bynnag a fynnoch.”