Yn dilyn ailstrwythuro ein Bwrdd i adlewyrchu'r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu, rydym yn dymuno penodi nifer o Ymddiriedolwyr newydd gyda'r sgiliau, arbenigedd neu brofiad byw a ganlyn: gofal cymdeithasol; ymarfer anabledd; amgylchedd gwleidyddol; celfyddydau; mentrau cymdeithasol; cyfraith; busnes a rheolaeth ariannol.

Bydd y rolau hyn yn cyfrannu at gyfeiriad strategol Awen, tra'n darparu cyfeiriad a llywodraethu da i'r sefydliad. Byddant yn rhagweithiol, yn barod i herio a gwneud penderfyniadau o ansawdd uchel sy'n effeithio ar staff Awen a buddiolwyr allanol.

Byddem yn annog ceisiadau gan bobl o bob rhyw, o gymunedau du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, y rhai sy’n LGBTQIA+, yn anabl, yn iau a/neu o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Rydym hefyd yn anelu at benodi o leiaf un ymddiriedolwr newydd sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'r pecyn recriwtio.