Ar ddiwedd 2019, cyhoeddodd y Cyngor Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen fel eu tenant a gweithredwr dewisol y Miwni – a chyhoeddodd ar y cyd gynllun hirdymor uchelgeisiol i adnewyddu’r Miwni mewn partneriaeth â’r penseiri Purcell. Y nod yw diogelu treftadaeth yr adeilad a dathlu’r bensaernïaeth gothig syfrdanol y mae’n cael ei chydnabod a’i rhestru ar ei chyfer – tra’n sicrhau dyfodol cynaliadwy sy’n diwallu anghenion y gymuned leol ac yn sefydlu’r Miwni fel lleoliad celfyddydau a cherddoriaeth rhanbarthol unigryw unwaith eto.

Yr hydref hwn, mae proses ymgynghori cyhoeddus bwysig yn cael ei chynnal gyda’r gymuned a rhanddeiliaid allweddol, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am y cynnydd a chael adborth pwysig i helpu i lunio’r cynlluniau. Bydd yn cynnwys dau brif gam – galwad am atgofion (yn dechrau Hydref 2020) ac yna ymarferion ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid (yn dechrau ar Dachwedd 23, 2020).

Mae'r cam hwn o'r gwaith yn cael ei ariannu gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, ynghyd ag arian ychwanegol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae croeso nawr i drigolion rannu eu straeon a'u hatgofion o orffennol y Miwni. Mae tudalen we bwrpasol wedi'i sefydlu ar wefan y Cyngor sy'n cynnwys manylion llawn, y gellir ei gyrchu yma.

Rydym am glywed cymaint o atgofion ag sy’n bosibl gan y gymuned – o’r adeg y defnyddiwyd y Miwni fel Capel Wesleaidd i’r gweithgareddau a gynhaliwyd yno, y cyngherddau a fwynhawyd yn yr adeilad a’r priodasau a gynhaliwyd ganddo.

Rydym hefyd am weld cymaint o luniau â phosibl, a allai roi cipolwg pellach ar nodweddion ac arwyddocâd hanesyddol y Miwni, yn ogystal â gwerth cymdeithasol y Miwni i'r gymuned. Bydd yr holl gyflwyniadau a wneir yn yr ymgynghoriad yn helpu i ffurfio rhan o asesiad ehangach o arwyddocâd treftadaeth y Miwni.

Y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Gymunedau Cryfach, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, Dywedodd: “Mae Canolfan Gelfyddydau’r Miwni yn sicr yn lleoliad poblogaidd iawn gan bobl Pontypridd a thu hwnt, ac roedd llawer o gyffro pan rannwyd cynlluniau uchelgeisiol y Cyngor, Awen a Purcell am y tro cyntaf ddiwedd y llynedd. Argymhellodd y Cabinet y dylai'r Cyngor ymgysylltu â'r gymuned ehangach ar yr adeg briodol, sef yr hyn sy'n cael ei ddwyn ymlaen yr hydref hwn.

“Mae rhan gyntaf yr ymgynghoriad hwn yn gwahodd trigolion lleol i rannu eu hatgofion o’r Miwni a’i hanes helaeth, a bydd yn hynod ddiddorol clywed yr atgofion a gweld y lluniau sy’n cael eu rhannu. Bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Cyngor, Awen a Purcell am dreftadaeth y Miwni, sy’n bwysig yn y nod ehangach o adfywio’r adeilad fel lleoliad celfyddydol rhanbarthol addas i’r pwrpas sy’n diwallu anghenion pobl leol orau.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi bod yn rhan o orffennol y Miwni, yn ogystal â’r rhai sydd â diddordeb yn ei dyfodol, i gymryd rhan yn y broses ymgynghori ehangach.”

Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda grwpiau lleol ac unigolion i ddathlu a rhannu hanes, treftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol y Miwni, ac i ddarganfod beth sy’n gwneud y lleoliad poblogaidd hwn mor unigryw ac arbennig. Bydd llawer o bobl â'u straeon eu hunain i'w hadrodd am ymweld, gweithio neu berfformio yn y Miwni, boed yn gysylltiad diweddar neu'n chwedl a drosglwyddwyd dros genedlaethau. Rydym yn gyffrous i glywed yr atgofion, y profiadau personol a’r hanesion hyn, fel y gallwn eu plethu i gynlluniau’r lleoliad ar gyfer y dyfodol.”

Yn dilyn yr alwad am atgofion, bydd y broses yn symud tuag at ei hail gam ar 23 Tachwedd – ymgynghoriad cyhoeddus a rhanddeiliaid. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai rhithwir, cyflwyniad a holiadur i bobl leol gymryd rhan. Bydd rhagor o fanylion am hyn yn cael eu cyfleu maes o law.