Ar hyn o bryd, mae’r cyngor a’r canllawiau swyddogol hyn yn nodi nad oes unrhyw sail resymegol glir dros ganslo neu ohirio digwyddiadau, ac y gall y rhan fwyaf o bobl barhau i fynd i’r gwaith, yr ysgol a mannau cyhoeddus eraill fel arfer. Bydd y lleoliadau a’r gwasanaethau a reolir gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, felly, yn parhau ar agor ac yn weithredol hyd y gellir rhagweld.

Hyd nes y bydd y cyngor a'r arweiniad swyddogol yn newid, bydd telerau ac amodau tocynnau arferol Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn berthnasol. Rydym yn parhau i argymell bod cwsmeriaid yn darllen ac yn deall y telerau ac amodau hyn, cyn prynu.

Gan fod lles ein cwsmeriaid, ymwelwyr a staff yn hollbwysig, rydym yn rhoi ystod o fesurau ar waith i helpu i ddiogelu rhag dod i gysylltiad â’r coronafeirws, megis darparu hylif diheintio dwylo yn ogystal â pheiriannau sebon, arddangos posteri ar olchi dwylo’n effeithiol a hylendid da, a cynyddu ein harferion glanhau yn ein hadeiladau.

Os ydych yn bwriadu mynychu un o’n digwyddiadau, byddwch yn ymwybodol ein bod yn symud tuag at daliadau heb arian parod, gan fod Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio y gellir trosglwyddo’r firws rhwng cwsmeriaid a staff trwy arian papur a darnau arian. Byddem felly yn eich annog i ddod â cherdyn debyd neu gredyd, os yn bosibl.

Os ydych yn pryderu am y coronafeirws, ewch i:

Iechyd Cyhoeddus Cymru – https://phw.nhs.wales/

Galw Iechyd Cymru - https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/

Llywodraeth Cymru - https://gov.wales/coronavirus