Y 5 gweithgaredd Awen uchaf ar gyfer hanner tymor Chwefror 2018
Ag ystod wych o weithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer hanner tymor mis Chwefror eleni, mae digon i bobl o bob oedran gynhyrfu yn eu cylch. Er bod rhai o'r digwyddiadau a drefnir yn dychwelyd yn ôl galw poblogaidd, mae ein tîm hefyd wedi trefnu rhai gweithgareddau newydd sbon ac unigryw i ddigwydd yn ein lleoliadau. Os ydych yn chwilio am rywbeth i gael eich plant i fod yn greadigol, neu'n chwilio am sioe ddifyr a fydd wrth fodd y teulu cyfan, edrychwch ar ein dewis o'r digwyddiadau uchaf a fydd yn dod i leoliadau Awen ledled yn ystod hanner tymor mis Chwefror.
Ydych chi’n chwilio am weithgaredd i gael eich plant i fod yn greadigol yr hanner tymor hwn? Mae ein tîm yn Ymddiriedolaeth Diwylliannol Awen wedi trefnu i’r grŵp gwych Out to Learn Willow arwain gweithdy a fydd yn arddangos sut i wneud crefftau helyg sy’n ddifyr a chyffrous. O glöynnod byw a physgod i galonnau a chleddyfau, bydd plant yn cael cyfle i fod yn greadigol a mynd â phob un o’u creadigaethau gwych adref.
Dydd Llun 19eg Chwefror ym Mharc Gwledig Bryngarw. I archebu tocyn, ewch i, www.bryngarwcountrypark.co.uk.
Sut ydych chi’n cael gwared ar gawr trafferthus? Oes gennych chi gyfrinach fel Effie? Beth fyddech chi’n ei wneud gyda hedyn o anweledigrwydd?
Ymunwch â’r storïwraig Cathy Little yn llyfrgell Betws tra’i bod yn rhannu rhai straeon gwych a hudolus o’i llyfr newydd sbon i blant. Mae Straeon Gwerin Morgannwg yn cynnwys straeon o antur gyffrous y dylent i gyd gael eu clywed.
Dydd Llun 19eg Chwefror yn Llyfrgell Betws, am 14:00yh a 21/02/19 yn Llyfrgell Y Llynfi am 14:00yh. Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ond mae archebu’n hanfodol a gellir ei gyrchu trwy wefan Pafiliwn Porthcawl yn, www.grandpavilion.co.uk.
“Mae aliwns wrth eu bodd â thrôns isaf, ym mhob siâp a maint,
Ond does dim trôns isaf yn y gofod, felly dyma syrpreis mawr…”
O grewyr y llyfrau llwyddiannus i blant ‘Aliens Love Underpants’, mae’r sioe hon i blant yn siŵr o fod yn rhyfeddol o dda. Dilynwch y buddsoddwr ifanc Monty wrth iddo greu byd o ddyfeisiadau gwallgof ac anghenfilod anhygoel. Beth mae’n mynd i’w wneud gyda nhw i gyd? Allwch chi ei helpu? Wedi’i osod i gynnwys gwefrau, gollyngiadau, hud a gwallgofrwydd, mae’r sioe egnïol hon yn siŵr o roi gwên ar wynebau pawb. Yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol a chyfranogiad gan y gynulleidfa, ni ddylid colli Monstersaurus.
Dydd Mawrth 20fed Chwefror am 11yb a 14:00yh yn Neuadd y Dref Maesteg. Mae tocynnau ar gyfer y sioe hon yn hanfodol a gellir eu harchebu drwy wefan Neuadd y Dref Maesteg yn, www.maestegtownhall.com.
Gallwch chi annog adar i ddod i’ch gardd y gwanwyn hwn trwy ddarparu digon o lefydd i nythu. Bydd hyn yn darparu digon o ymddygiad diddorol gan adar ichi i’w wylio, i gyd tra’n annog eich plant i ddysgu am y bywyd gwyllt gwych sydd gyda ni’n byw yn Ne Cymru. I ddechrau, ymunwch â’n parcmyn Parc Bryngarw yn ystod hanner tymor y mis Chwefror hwn ac adeiladu eich blwch adar eich hun.
Yn ôl oherwydd y galw mawr, bydd y gweithgaredd hwn yn cael ei gynnal yn y ganolfan ymwelwyr gyda’r holl ddeunyddiau adeiladu yn cael eu darparu. Yn berffaith i gadw’r rhai bach yn brysur, dewch draw i gymryd rhan cyn mynd am dro i weld y gwahanol rywogaethau o adar sy’n byw yn ein parc gwledig hardd.
Dydd Mercher yr 21ain a dydd Gwener y 23ain o fis Chwefror am 11yb ym Mharc Gwledig Bryngarw. Trefnir slotiau i adeiladu blychau adar bob 10 munud rhwng 10yb a 3yh. Gallwch archebu tocynnau trwy fynd i wefan Parc Gwledig Bryngarw yn www.bryngarwcountrypark.co.uk.
Wedi’i lleoli yn nhiroedd gwlyb Dartmoor, bydd yr adrodd stori hyfryd weledol o Soap Soup yn cyflwyno’ch antur mwyaf bythgofiadwy eto. Wedi’i hysbrydoli gan y stori atgofus o The Pixies Scarf gan Alison Utterly, mae’r sioe hon yn cyfuno cymeriadau swynol a difyr, pypedwaith clyfar a cherddoriaeth ryfeddol. Yn addas ar gyfer oedrannau 3+, mae’r sioe hon yn siŵr o ddiddanu’r teulu cyfan.
Dydd Sadwrn y 24ain Chwefror am 11yb yn Nhŷ Carnegie, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae tocynnau yn hanfodol ar gyfer y digwyddiad hwn a gellir eu cyrchu yn, www.carnegiehouse.co.uk.
Wedi’i gosod i gynnwys chwerthin, antur a gwallgofrwydd, byddwch yn siŵr o brynu’ch tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hanner tymor gwych hwn nawr!