Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi cryfhau ei Bwrdd gyda phenodiad pedwar ymddiriedolwr newydd. Mae'r penodiadau'n dod â chyfoeth o arbenigedd a phrofiad amrywiol, i helpu i arwain cyfeiriad strategol yr elusen a sicrhau effaith gymdeithasol barhaus.

Yr ymddiriedolwyr newydd eu penodi yw:

Carly McCreesh – Gyda angerdd dros y celfyddydau creadigol, mae gan Carly wybodaeth helaeth am reoli rhaglenni datblygu cymunedol a mentrau cymdeithasol.

Conal Bembridge – Graddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Conal yn gyfarwyddwr cerdd, pianydd a darlithydd clodwiw, yn ogystal â chyflwyno addysg iaith Gymraeg.

Daniel Taylor – Ymgynghorydd profiadol gyda chefndir mewn cyfathrebu ac ymgysylltu, mae Daniel yn dod â mewnwelediadau ffres ar lywodraethu ac arweinyddiaeth y sector cyhoeddus.

Kathryn Warren – Yn eiriolwr dros ddadgarboneiddio ynni, yr economi gylchol a rheoli gwastraff ac adnoddau, mae Kathryn yn cynnig arbenigedd gwerthfawr mewn ynni, peirianneg a chynaliadwyedd.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Awen, Ava Plowright:

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Carly, Conal, Daniel a Kathryn i’n Bwrdd, gan gymryd yr awenau oddi wrth nifer o ymddiriedolwyr ymroddedig, hirhoedlog y daeth eu cyfnod yn y swydd i ben yn ddiweddar. Fel eu rhagflaenwyr, mae pob ymddiriedolwr newydd yn dod â set unigryw o sgiliau, profiad ac ymrwymiad i gyflawni pwrpas Awen o ‘wneud bywydau pobl yn well’. Bydd eu cyfranogiad yn allweddol wrth i ni barhau i lywio cyfleoedd newydd a pharhau â’n gwaith pellgyrhaeddol yn Ne Cymru.

“Fel finnau, rwy’n siŵr y byddant yn cael llawer iawn o foddhad personol o arwain sefydliad sydd ag ymgysylltiad cadarnhaol ac ystyrlon â dros filiwn o bobl bob blwyddyn. P’un a yw ein buddiolwyr yn rhan o’r gynulleidfa yn un o’n theatrau, yn ymwelydd â’n parc gwledig, yn aelod o’n gwasanaethau llyfrgell, neu’n hyfforddai yn ein rhaglenni gwaith ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, mae pob person a phob cymuned yn arwyddocaol i Awen.”

Daw'r penodiadau ar adeg hollbwysig i Awen wrth i'r elusen agosáu at ei phen-blwydd yn 10 oed ym mis Hydref ac yn dechrau ar strategaeth pum mlynedd newydd i 'greu cymunedau bywiog yn ddiwylliannol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn'.

Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae fy nghydweithwyr a minnau’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Carly, Conal, Daniel a Kathryn dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf; rydym yn eu croesawu i’n Bwrdd a’n sefydliad. Mae eu penodiad yn golygu bod gennym garfan bron yn gyflawn o ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, rydym ar hyn o bryd yn chwilio am unigolyn a all ddefnyddio ei brofiad rheoli ariannol uwch i’n cefnogi i oruchwylio Awen a’i is-gwmnïau yn effeithiol. Os yw’r rôl hon yn swnio o ddiddordeb, cysylltwch â ni.”