Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn falch o gyhoeddi bod Parc Gwledig Bryngarw wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd am y degfed flwyddyn yn olynol, gan nodi degawd o ragoriaeth mewn ymdrechion amgylcheddol, cyfleusterau i ymwelwyr a chyfranogiad cymunedol.

I ddathlu'r cyflawniad hwn, dyma 10 ffaith efallai nad ydych chi'n eu gwybod am y parc arobryn, sydd wedi'i leoli ym Mrynmenyn ger Pen-y-bont ar Ogwr:

  1. Mae dros 41 rhywogaeth o goed yn tyfu yn y parc.
  2. Mae Bryngarw yn 113 erw sydd tua 80 cae pêl-droed o ran maint.
  3. Crëwyd yr Ardd Japaneaidd ym 1910 ac mae llawer o'r coed gwreiddiol yn dal i sefyll heddiw.
  4. Mae pedwar coetir unigryw, pob un wedi'i wneud o gyfansoddiad gwahanol o goed a fyddai wedi gwasanaethu pwrpas penodol i Dŷ Bryngarw yn ôl yn y 19eg Ganrif.
  5. Mae tair dolydd blodau gwyllt sy'n cyfateb i chwe erw yn y parc. Ers y 1930au, mae'r DU wedi colli 97% o'i dolydd blodau gwyllt ac mae bellach yn cael ei ystyried yn un o'r cynefinoedd prinnaf yn y DU.
  6. Mae gan Barc Gwledig Bryngarw ganolfan arddio ar y safle o'r enw B-Leaf, sy'n darparu cyfleuster hyfforddi i oedolion lleol ag anableddau dysgu.
  7. Parc Gwledig Bryngarw yw man cychwyn Llwybr Beicio 884 (Sustrans)
  8. Mae'r parc yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.
  9. Defnyddiwyd Tŷ Bryngarw fel Ysbyty Cynorthwyol y Groes Goch yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
  10. Ers 2015, mae Awen wedi gweithredu'r parc ar ran, ac mewn partneriaeth â, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gyda'n gilydd rydym wedi cael mynediad at gyllid i fuddsoddi bron i £1 miliwn yng nghanolfan ymwelwyr y parc, cyfleusterau addysg newydd, seilwaith, arwyddion dehongli ac offer chwarae hygyrch.

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli'n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd. Yng Nghymru, Cadwch Gymru'n Daclus sy'n rhedeg y cynllun gwobrau.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus:

“Rydym wrth ein bodd yn gweld 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn cyflawni statws mawreddog y Faner Werdd, sy’n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.

“Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael eich cydnabod ymhlith y gorau yn y byd yn gamp enfawr – Llongyfarchiadau!”

Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae’r wobr hon yn deyrnged i’r tîm ceidwaid gweithgar, gwirfoddolwyr, hyfforddeion a chydweithwyr B-Leaf a sefydliadau partner eraill sy’n gofalu am ac yn gwella’r gofod gwyrdd hanfodol hwn i dros 200,000 o bobl sy’n ymweld â Pharc Gwledig Bryngarw bob blwyddyn.

“Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn cydnabod Parc Gwledig Bryngarw yn gyrchfan dwristiaeth allweddol ac yn ased cymunedol ffyniannus i’r ardal. Mae cael ein cydnabod gan Cadwch Gymru’n Daclus am ddeng mlynedd yn olynol yn adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd i gynaliadwyedd, cynhwysiant, cadwraeth a bioamrywiaeth, a helpu pobl i gysylltu â natur.

“Gyda gwyliau haf yr ysgol ar y gorwel, rydym yn edrych ymlaen at groesawu llawer o ymwelwyr i’r parc i fwynhau ein rhaglen newydd sbon i’r Ceidwaid Iau, digwyddiadau theatr awyr agored, a sesiynau stori a chrefft gyda Llyfrgelloedd Awen.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd: Llongyfarchiadau i bawb ym Mharc Gwledig Bryngarw am ennill Baner Werdd am y 10feded blwyddyn yn olynol. Nid yw hyn yn gamp hawdd ac mae'n adlewyrchu lefel uchel ymgysylltiad cymunedol a rhagoriaeth amgylcheddol y parc.

“Mae’n wych gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i ddarparu mannau y gall yr holl gymuned leol eu mwynhau ac mae’n amlwg eu bod nhw’n chwarae rhan allweddol wrth fod o fudd i iechyd corfforol a meddyliol ymwelwyr.”