Bydd Llyfrgell Pencoed ar gau i’r cyhoedd o ddydd Llun 19ed Rhagfyr i ddechrau ar ei waith ailddatblygu. Disgwylir i'r llyfrgell ailagor ddechrau mis Mawrth 2023 ar gyfer ei hanner canmlwyddiant.

Mae’r ailddatblygiad, a fydd yn cynnwys diweddaru’r hen ddodrefn sefydlog gyda silffoedd symudol, creu gofod gwaith/astudio ac adeiladu ystafell gyfarfod gymunedol i grwpiau lleol a gwasanaethau cefnogi ei defnyddio, wedi’i ariannu gan Gynllun Grant Trawsnewid Cyfalaf Llywodraeth Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy'n rheoli Llyfrgell Pencoed mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn darparu arian cyfatebol ychwanegol i osod paneli solar ar do'r adeilad sy'n wynebu'r de. Mae hyn yn golygu y bydd Llyfrgell Pencoed yn rhedeg yn ystod oriau golau dydd gan ddefnyddio ffynonellau ynni cynaliadwy.

Tra bydd y llyfrgell ar gau, bydd gwasanaeth Archebu a Chasglu yn gweithredu o Swyddfa Cyngor Tref Pencoed yn Festri Capel Salem o ddydd Mawrth 3ydd Ionawr 2023. Bydd staff y llyfrgell hefyd yn ymweld ag ysgolion, meithrinfeydd a lleoliadau cymunedol eraill i gyflwyno digwyddiadau gan gynnwys bownsio ac odli, grwpiau darllen, crefftau, clybiau codio, amser stori a sesiynau cymorth digidol i breswylwyr. Cofiwch gadw llygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a gwefan am fanylion.