Mae'r cynlluniau ar gyfer Llyfrgell Pencoed, a fydd yn cau yn ddiweddarach yn yr hydref ac yn ailagor yn gynnar yn 2023 ar gyfer ei 50ed blwyddyn pen-blwydd, gan gynnwys:

  • Diweddaru hen ddodrefn sefydlog gyda mwy o opsiynau symudol fel y gellir defnyddio'r gofod yn fwy hyblyg ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau.
  • Creu man gweithio/astudio i gefnogi'r rhai sy'n gweithio o bell neu'r rhai sydd angen mannau tawel i ganolbwyntio ar eu hysgol neu eu hastudiaethau.
  • Adeiladu ystafell gyfarfod gymunedol i grwpiau lleol a gwasanaethau cymorth ei defnyddio.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae Llyfrgell Pencoed yn gwasanaethu poblogaeth gynyddol o dros 12,000 o bobl, ond mae ei chynllun presennol wedi aros yr un peth fwy neu lai ers 49 mlynedd. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cyllid, a fydd yn caniatáu inni wneud addasiadau ac adnewyddu’r gofod er budd y gymuned gyfan. Fel rhan o ymrwymiad Awen i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil am ynni, rydym yn falch o ddefnyddio’r cyfle adnewyddu hwn i osod paneli solar ar do Llyfrgell Pencoed.”

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi’r gwasanaethau pwysig hyn sy’n cyflawni rôl werthfawr wrth galon bywyd cymunedol. Bydd y gronfa hon yn ehangu mynediad ar gyfer ein cymunedau, yn hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol, yn darparu cyfleoedd dysgu ac yn cefnogi cydlyniant cymunedol, cynaliadwyedd a ffyniant. Rwy’n annog pawb i weld beth sydd gan eu hamgueddfa, archif neu lyfrgell leol i’w gynnig.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol: “Mae’r grant hwn yn newyddion gwych i Bencoed a’r cyffiniau. Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan hynod bwysig yn ein cymunedau, i bobl o bob oed a chefndir.

“Bydd ein partneriaeth lwyddiannus ag Awen yn ein helpu i greu gofodau modern sy’n darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen fwyaf ar bobl, megis ardaloedd gweithio o bell, yn ogystal â mannau croesawgar i ddarllen, gweithio a chymdeithasu yn y gymuned leol.”