Yr haf hwn rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o ymwelwyr â Bryngarw, ac edrychwn ymlaen at groesawu llawer mwy wrth i ni barhau i wella ein hygyrchedd, offer chwarae cynhwysol, ymrwymiad i adnewyddu ffynonellau ynni a dehongliad drwy’r Parc.

Rydym am i’n hymwelwyr, o bell ac agos, gael y cyfle i ailgysylltu â’u treftadaeth naturiol a diwylliannol tra’n elwa ar y manteision iechyd a lles niferus sy’n gysylltiedig â bod yn yr awyr agored yng nghefn gwlad hardd Cymru.

“Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru, Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am gydnabod Parc Gwledig Bryngarw fel safle Porth Darganfod ac am gredu yn ein gweledigaeth i wireddu gwir botensial Bryngarw fel cyrchfan flaenllaw yn y Cymoedd” meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen .