Ein Straeon

Mae disgyblion o Ysgol Gyfun Maesteg wedi bod yn gweithio gyda’r gantores-gyfansoddwraig enwog Lowri Evans i ryddhau cân newydd sy’n cydnabod brwydrau merched dros genedlaethau tra’n dathlu eu cryfderau gyda gobaith am y dyfodol. Gwrandewch ar y trac 'Let's Show Them All' yma. Darllenwch fwy am y prosiect yma. Gyda diolch…
Bydd perfformiad cyntaf rhaglen ddogfen newydd 'Voices from Underground – A Dying Breed' yn cael ei chynnal am 2pm ddydd Sadwrn 29 Ebrill ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl. Daw’r digwyddiad â phrosiect dwy flynedd i ben, a gydlynir gan Awen a’i gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n adrodd y straeon dynol y tu ôl i’r…
Nod Bwrsariaeth Ein Llais 2023 yw cefnogi dau artist o’r Mwyafrif Byd-eang, am flwyddyn, i fynd â’u gyrfa yn y celfyddydau i’r cam nesaf ac i wneud cysylltiadau pellach yn sector y celfyddydau yng Nghymru. Bydd y ddau dderbynnydd bwrsariaeth yn cael eu dewis trwy broses ddethol agored sy'n chwilio am y rhai…
Rydym yn edrych ymlaen at lansio prosiect newydd ar gyfer cartrefi gofal sy’n defnyddio technoleg fodern i frwydro yn erbyn unigedd o fewn gofodau sydd bellach yn cael eu hadnabod fel “ynysoedd yr hen”. Mae Inside Outside yn defnyddio profiadau VR i gynorthwyo hel atgofion trigolion trwy adeiladu llyfrgell o fideos 360 gradd o lefydd cyfarwydd y byddai pobl wrth eu bodd yn ymweld â nhw…
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Awen wedi gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr a Kitsch n Sync Collective i roi perfformiadau annisgwyl i ofalwyr ar draws y fwrdeistref sirol ar garreg eu drws. Mae The Kitsch n Sync Collective yn gwmni theatr o Gaerdydd y mae ei berfformwyr yn cyfuno genres dawns, cymeriadau a phropiau gwahanol,…
Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen bartneru â Live Music Now Wales i ddod â’r Prosiect Hwiangerdd enwog i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Yn fenter gan Sefydliad Cerddoriaeth Weill Carnegie Hall, Efrog Newydd am y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Lullaby Project bellach yn ymestyn yn rhyngwladol. Dros wyth…
Yr wythnos diwethaf, lansiodd y cyn-löwr a chrwydrwr brwd iawn Roy Meredith ei lyfr Stepping Through Time yn Amgueddfa Glowyr De Cymru, yn swatio ym mhrydferthwch Cwm Afan. Mae llyfr Roy yn rhan o brosiect ‘Voices From Underground’ Awen, a gefnogir gan gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n ceisio rhoi safbwynt personol…
Mae Llyfrgell Pencoed wedi cael ei hailagor yn swyddogol ym mlwyddyn ei hanner canmlwyddiant. Yn ystod ei chyfnod cau byr, mae’r llyfrgell wedi’i thrawsnewid yn llwyr i fod yn ofod llachar, croesawgar i’r gymuned gyfan ei ddefnyddio a’i fwynhau. Ni fydd ein cwsmeriaid rheolaidd yn credu'r gwahaniaeth! Diolch i gyllid gan Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae’r dodrefn wedi…