Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi ymrwymo’n llwyr i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gwasanaethau a ddarparwn i’n cymunedau, yn ogystal ag mewn perthynas â’n pobl. Mae ein prosesau recriwtio a’n polisi tâl a gwobrwyo yn cefnogi proses deg a chyfiawn i recriwtio’r ymgeisydd cywir, heb ragfarn tuag at rywedd neu nodweddion eraill.

I'r perwyl hwn, mae Awen wedi adrodd yn wirfoddol ar ei data bwlch cyflog rhwng y rhywiau (gwahaniaethau rhwng cyflog cyfartalog dynion a menywod) ers 2017.

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dangos y gwahaniaethau yn y gyfradd fesul awr gyfartalog rhwng dynion a merched yn y gweithle; nid yw’n fater cyflog cyfartal.

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'n Hadroddiad Cyflog Rhwng y Rhywiau diweddaraf.