Mae Llyfrgelloedd Awen yn barod i danio llawenydd darllen gyda dychweliad Her 21 Llyfr arobryn, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer oedolion. Cofrestrodd dros 600 o bobl ar gyfer yr her gyntaf y llynedd, mwy na dwbl y niferoedd a ragwelwyd.

Yn rhedeg o 1 Medi 2025 i 31 Mawrth 2026, mae Her 21 Llyfr yn gwahodd darllenwyr ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddarganfod genres newydd, ailymweld â theitlau clasurol a gwneud amser i ddarllen yn eu bywydau bob dydd.

Mae themâu eleni yn cynnwys 'Llyfr wedi'i osod mewn gwlad rydych chi wedi ymweld â hi', 'Llyfr ag wyneb dyn ar y clawr', 'hunangofiant', 'nofel drosedd' a 'llyfr hanes' a argymhellwyd gan ein Rheolwr Treftadaeth yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen'.

Gan ddefnyddio taflen bingo arddull Her 21 Llyfr, gall cyfranogwyr gofnodi eu cynnydd a chasglu gwobrau gan gynnwys pennau pwrpasol, nodau tudalen, bagiau tote a goleuadau darllen ar ôl cwblhau 7, 14 a 21 o lyfrau.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen sy'n rheoli llyfrgelloedd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Gan ein bod wedi cael ein henwi’n ‘Llyfrgell Gymreig y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2025, diolch i lwyddiant Her 21 Llyfr gyntaf erioed, rydym yn ddiolchgar bod ein cydweithwyr yn y cyngor a llywodraeth y DU, drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, wedi galluogi iddi ddychwelyd.

“Mae mentrau fel yr Her 21 Llyfr yn cyd-fynd ag ymdrechion parhaus Awen i hybu lefelau llythrennedd, lleihau unigedd cymdeithasol a hyrwyddo lles meddyliol, sydd i gyd yn fanteision hysbys darllen er mwyn pleser.

“Gobeithiwn y bydd ein darllenwyr yn mwynhau’r categorïau newydd y maent wedi’u dewis ar eu cyfer, gan roi llawer o gyfleoedd i bobl ehangu eu chwaeth darllen a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Os nad ydych chi’n aelod o’r llyfrgell, galwch heibio neu ewch i www.awen-libraries.com.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Jane Gebbie:

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Her 21 Llyfr yn ôl eleni. Roedd menter y llynedd yn hynod boblogaidd gyda phobl leol. Mae ymchwil yn dangos y gall darllen llyfrau gynnig sawl budd iechyd, gan gynnwys cryfhau'ch ymennydd, cynyddu'ch gallu i empatheiddio, lleihau straen, ac adeiladu'ch geirfa. Byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr her a mwynhau'r nifer o fanteision sydd gan ddarllen llyfr da i'w cynnig.”