Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mewn partneriaeth â Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn falch o gefnogi datblygiad drama newydd – Price of Change – a fydd yn cael ei harddangos yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw yr hydref hwn.

Mae'r ddrama, sydd wedi ei hysgrifennu gan Vic Mills o Theatr Gyfoes, gyda barddoniaeth gan Yr Athro Kevin Mills a sgôr wreiddiol gan Stephen J Preston, yn adrodd hanes Dr Richard Price o Langeinwyr.

Daeth Price yn feddyliwr mwyaf erioed Cymru, yn athronydd moesol a mathemategydd hynod arwyddocaol, a gafodd effaith fawr ar ddigwyddiadau gwleidyddol y byd yn y 18fed ganrif, yn bwysicaf oll Annibyniaeth America a'r Chwyldro Ffrengig. Gwnaeth ei waith mathemategol gyfraniad sylweddol i ddamcaniaeth tebygolrwydd, sy'n sail i Ddeallusrwydd Artiffisial.

Mae’r ddrama hefyd yn adrodd hanes Cari, merch ifanc sy’n byw yng Nghwm Garw mewn dyfodol agos dychmygol, gyda Chymru ar fin pleidleisio ar ei hannibyniaeth ei hun, wrth iddi droi at Price am ysbrydoliaeth wrth i ddiwrnod newydd wawrio i Gymru.

Perfformir Price of Change yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw ddydd Sadwrn 30ain Medi, dydd Gwener 6ed Hydref a dydd Sadwrn 7fed Hydref. Bydd nifer o berfformiadau ysgol hefyd.

Cliciwch yma i brynu tocynnau.