Oeddech chi'n gwybod bod llawer o leoliadau Awen ar neu yn agos at y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol?

Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhwydwaith DU gyfan o lwybrau wedi'u harwyddo a llwybrau ar gyfer cerdded, olwynion, beicio ac archwilio yn yr awyr agored. Mae'r Rhwydwaith yn cyfrannu at les cymdeithasol, corfforol ac amgylcheddol pobl, ac yn gwneud cysylltiadau hanfodol rhwng cymunedau. Mae'r llwybrau hefyd yn caniatáu ichi wneud dewisiadau mwy cynaliadwy a gwyrddach ynghylch sut i deithio.

  • Ty Bryngarw a Parc Gwledig – NCN 4 – Mae’r llwybr hwn yn rhedeg i’r de o Barc Gwledig Bryngarw, ochr arall Bryn Road ac yn agos at Afon Garw.
  • Muni – NCN 4 / NCN 8 – Mae’r Miwni yn agos iawn at ble mae NCN 4 yn rhedeg trwy Bontypridd, ychydig ar Stryd yr Eglwys ac yn gyfochrog â phen deheuol Heol Gelliwastad. Mae NCN 8 yn rhedeg yr ochr arall i Afon Taf, gan fynd trwy Barc Ynysangharad.
  • Y Met – NCN 465 – Dim ond cwpl o strydoedd yw’r Met oddi wrth NCN 465, sy’n rhedeg ar Stryd y Castell yn Abertyleri.
  • Neuadd y Gweithwyr Blaengarw – NCN 884 – Mae NCN 884 yn rhedeg trwy Barc Calon Lân, sydd ychydig o strydoedd draw o Heol Blaengarw
  • Neuadd y Dref Maesteg – NCN 885 – Mae’r llwybr hwn yn rhedeg i’r gogledd-ddwyrain o Neuadd y Dref Maesteg, y gellir ei gyrraedd o Stryd y Castell neu Ferriers Row.
  • Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr – NCN 885 – Mae’r llwybr hwn yn rhedeg i’r gogledd o Angel Street a gellir ei gyrraedd ar Tondu Rd ger Cae’r Bragdy.
  • Llyfrgell Abercynffig – NCN 4 / NCN 885 – Rhed NCN 4 i'r gogledd o Lyfrgell Abercynffig, ar yr A4065. Mae NCN 885 yn rhedeg i'r gorllewin, ar hyd yr A4063 cyn iddi groesi Afon Ogwr i Barc y Pandy.
  • Llyfrgell y Pîl – NCN 4 – Mae’r llwybr NCN hwn yn rhedeg drwy’r Pîl, ar Heol Croft Coch, i’r gogledd-orllewin o Ganolfan Fywyd y Pîl.
  • Llyfrgell Sarn – NCN 4 – Rhed NCN 4 i'r gogledd o Lyfrgell Sarn, a gellir mynd ato lle daw Heol Cwrdy yn Heol-yr-Ysgol ar ôl i chi groesi Afon Ogwr.
  • Llyfrgell Maesteg – NCN 885 – Gellir cyrraedd y llwybr o Ferrier's Row, ychydig o strydoedd i ffwrdd o'r llyfrgell.
  • Canolfan gymunedol Awel y Môr – NCN 88 / NCN 885 – Mae'r safle hwn ychydig ymhellach o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, y llwybrau agosaf yw 88 yn Ewenni neu 885 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid oes unrhyw ddarn o NCN sy'n mynd i mewn nac yn rhedeg drwy Borthcawl.
  • Llyfrgell Porthcawl – fel uchod.
  • Pafiliwn y Grand, Porthcawl – fel uchod.
  • Llyfrgell Betws – NCN 4 – Fel gyda safleoedd Porthcawl, does dim byd yn syth ym Metws. Mae NCN 4 yn rhedeg i'r dwyrain ac i'r de o'r Betws, ond nid yn Betws ei hun mewn gwirionedd.
  • Llyfrgell Pencoed – dim NCN gerllaw.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.sustrans.org.uk/national-cycle-network

Credyd llun: Parc Rhanbarthol y Cymoedd