Mae Awen, sydd â 135 o weithwyr wedi’u lleoli ar draws ei lleoliadau, llyfrgelloedd a gwasanaethau eraill yn Ne Cymru, yn ymuno â sefydliadau lleol eraill gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i lofnodi’r siarter.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Awen:

“Yn Awen, mae pobl wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ac mae hyn yn cynnwys ein gweithlu.

“Mae diagnosis o salwch terfynol yn dod â straen emosiynol enfawr, ofn, pryder ac ansicrwydd, ac mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r dewis a’r rhyddid i bob person benderfynu beth sydd orau iddyn nhw o ystyried eu hamgylchiadau unigol eu hunain.

“I rai, fe allai fod yn amhriodol parhau i weithio neu efallai y byddan nhw’n dewis treulio gweddill yr amser gyda’u teulu a’u ffrindiau. I eraill, gall aros yn y gwaith gynnig ymdeimlad o normalrwydd a thynnu sylw defnyddiol oddi wrth eu salwch.

“Pa ddewis bynnag a wnânt, trwy lofnodi’r siarter hon, rydym yn dangos yn gyhoeddus ein hymrwymiad i’r holl staff, pe baent yn wynebu cyfnod mor anodd yn eu bywydau, y bydd eu lles yn y gwaith yn parhau’n flaenoriaeth.”

Yn y llun: Helen Cook, Pennaeth Pobl a Richard Hughes, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen