Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn dathlu’r ganrif bwysig hon â lliaws o ddigwyddiadau a ysbrydolir gan Roald Dahl sy’n digwydd ar draws llawer o’i lleoliadau.
Her Darllen yr Haf
Mae Her Darllen yr Haf yn gosod tasg i blant i ddarllen chwe llyfr yn ystod gwyliau’r haf, ac mae gan yr her eleni thema Roald Dahl! Hefyd mae cyfranogwyr yn casglu sticeri ac yn ennill tystysgrifau os ydynt yn cwblhau’r her. Galwch heibio i’ch llyfrgell leol i gael gwybod rhagor.
Trywyddau pôs canol y dref
Yn ogystal â chymryd rhan yn Her Darllen yr Haf, gall darllenwyr ifanc hefyd ennill eu casgliad eu hunain o lyfrau Roald Dahl trwy gymryd rhan mewn ‘eirinen wlanog’ gawraidd o gystadleuaeth trwy ddarganfod darluniadau enwog o lyfrau Dahl ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl! Dysgu rhagor.
Cais am record y byd
Gwahoddir pawb i fynychu digwyddiad arbennig yng nghaeau Y Bontnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 11yb – 1yh ar ddydd Sadwrn 20fed Awst pan fyddwn ni’n ceisio creu record newydd i’r byd i gasglu’r nifer fwyaf o bobl wedi’u gwisgo fel cymeriadau Roald Dahl mewn un man! Darperir adloniant gan yr ysgrifennwr plant Mark Brake.
Theatr awyr agored ym Mryngarw
Ar ddydd Mercher 10 Awst bydd perfformiad awyr agored o ‘Danny the Champion of the World’ ym Mharc Gwledig Bryngarw o 7yh ymlaen. Mae tocynnau’n costio £13 ar gyfer oedolion, £9 ar gyfer plant, neu £40 ar gyfer teulu o bedwar (dau oedolyn a dau blentyn). Ffoniwch 01656 815995 opsiwn 1 i archebu eich tocynnau.
Celf a Chrefft
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi trefnu cyfres o sesiynau celf a chrefft ym Mharc Gwledig Bryngarw wedi’u seilio ar lyfrau Roald Dahl megis gwneud barfau annhaclus fel Mr Twit, a chynllunio’ch melysion eich hunan fel Willy Wonka! Ffoniwch Swyddfa’r Parcmyn ar 01656 725155 i gael rhagor o wybodaeth.
Trywyddau natur
Ar ddydd Mercher 10fed Awst gallwch ddilyn trywydd a ysbrydolir gan Fantastic Mr Fox o gwmpas Parc Gwledig Bryngarw. Galwch heibio i’r ganolfan ymwelwyr rhwng 1yh a 4yh a chasglu eich cliw cyntaf. Cost: £2 y plentyn, yn cynnwys trît melys.
Hefyd gwyliwch am glybiau ffilm, partïon gwisg ffansi, amseroedd straeon, sesiynau crefft a gweithgareddau eraill a ysbrydolir gan Roald Dahl mewn llyfrgelloedd lleol drwy gydol y gwyliau!