Stori
Mae Pontypridd wedi nodi ailagor y Y Muni annwyl gyda steil.
Rhannu ar
Mae Pontypridd wedi nodi ailagor y Muni y mae cymaint o gariad ato mewn steil, gyda digwyddiad amrywiol llawn dop nos Sadwrn a ddathlodd lu o ddalentau cerddorol lleol – gan godi'r llen ar ddyfodol cyffrous y lleoliad.
Croesawodd digwyddiad 'Ponty LIVE!' ar Fedi 14 actau cerddorol lleol i brif lwyfan yr awditoriwm, wrth i’r Muni gynnal ei ddigwyddiad swyddogol cyntaf ers ailddatblygiad gwerth £6m gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Defnyddiwyd y lleoliad fel safle i Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mis Awst 2024, ac mae bellach wedi agor yn ei hawl ei hun am y tro cyntaf mewn mwy na phum mlynedd, wedi'i reoli gan Awen.
Adeiladwyd yr adeilad hanesyddol o'r 1890au yn wreiddiol fel cyn-Gapel Wesleaidd, ac yn ddiweddarach daeth yn boblogaidd fel lleoliad rhanbarthol ar gyfer y celfyddydau a cherddoriaeth. Mae wedi cael ei adnewyddu'n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf – gan gynnwys holl du allan yr adeilad ynghyd â'r awditoriwm, ardal y bar, y fyntedd, y lloft mezzanine, a gofodau ategol. Mae nodweddion Gothig gwreiddiol yr adeilad Rhestredig hefyd wedi cael eu hagor, eu gwella a'u harddangos yn falch fel rhan o'r ailddatblygiad.
Arweiniodd Vern Griffiths o Bontypridd y digwyddiad nos Sadwrn, wrth i gynulleidfa lawn fwynhau cerddoriaeth fyw gan berfformwyr amatur a phroffesiynol – o gorau ac actau acapela i theatr gerdd a chantorion-gyfansoddwyr. Yn camu i'r llwyfan roedd The People The Poet, Hazel & Grey, SOW Acapella, Bethan Nia, Tom Jenkins, Jamie B Sings, Project Prosper, Côr Cymunedol Pontypridd, Choirs for Good, Pontypridd Theatre Company a Chôr Meibion Pontypridd.
Yn dangos eu cefnogaeth i’r Muni ac Awen ar y noson agor fawr roedd sawl un o Aelodau Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf – gan gynnwys Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Maureen Webber, y Cynghorydd Ann Crimmings, a’r Cynghorydd Tina Leyshon (yn y llun gyda Phrif Weithredwr Awen, Richard Hughes).
Roedd ailddatblygiad y Muni yn bosibl diolch i dros £5.3m o gyllid gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU – ynghyd â chyfraniadau gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, Awen a Llywodraeth Cymru, gan ddod â’r cyfanswm buddsoddiad i £6m.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Ddatblygu a Ffyniant: “Mae ailddatblygiad trawiadol y Muni wedi adfywio’r tirnod y mae cymaint o gariad ato ym Mhontypridd, ac mae’n braf iawn ei weld yn cael ei ddefnyddio unwaith eto fel lleoliad digwyddiadau byw. Rydym yn falch iawn o sut mae nodweddion hanesyddol yr adeilad Gothig wedi cael eu cadw a'u gwella, tra bod cyfleusterau modern wedi'u gosod drwyddo draw – yn enwedig ar draws yr awditoriwm, y bar a'r ardaloedd lloft mezzanine.
“Y Muni yw’r prosiect adfywio diweddaraf i gael ei gyflwyno ar draws canol tref Pontypridd – ochr yn ochr â Llys Cadwyn, YMa, Cwrt yr Orsaf a hen safle’r neuadd bingo. Gyda chatalog amrywiol o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio yn y Muni yn y misoedd i ddod, byddwn yn annog preswylwyr sydd â diddordeb i fynd draw a phrofi lleoliad diweddaraf Pontypridd yn un o’i adeiladau hynaf, mwyaf bywiog.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Harris, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Am noson wych o adloniant lleol i ailagor y Muni yn swyddogol i'r cyhoedd ym Mhontypridd! Mae'r prosiect ailddatblygu mawr wedi creu lleoliad gwych ar gyfer cerddoriaeth fyw a sinema ddigwyddiadau, ac mae wedi ailsefydlu'r tirnod poblogaidd fel canolbwynt rhanbarthol ar gyfer y celfyddydau a diwylliant. Hoffai’r Cabinet cyfan ddiolch i bawb a gyfrannodd at wneud ‘Ponty LIVE!’ yn llwyddiant, yn enwedig y perfformwyr gwych ac i'r cyhoedd am ddod draw.
“Hoffwn hefyd gydnabod gwaith ein partner, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, y mae eu hymrodedd wedi sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer yr ailagor disgwyliedig i'r Muni – boed ar gyfer yr Eisteddfod fis diwethaf ac cyn ei dymor agor prysur o ddigwyddiadau. Mae gan Awen arbenigedd mewn gweithredu lleoliadau hanesyddol o'r fath mewn ffordd gynaliadwy, ac mae wedi sicrhau bod gan y Muni ddyfodol disglair a chyffrous.”
Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig bod y digwyddiad cyntaf i’w gynnal yn y Muni, o dan ein rheolaeth mewn partneriaeth â Chyngor RCT, yn adlewyrchiad a dathliad gwirioneddol o dalent amatur a phroffesiynol lleol. Mae’r Muni yn lleoliad cymunedol y mae cymaint o gariad ato ac roeddwn mor falch o weld y gynulleidfa yn mwynhau perfformiadau'r noson o fewn y gofod hwn sydd wedi’i adnewyddu’n brydferth. Mae hefyd yn gyfle i ddiolch yn ffurfiol i’r Cyngor am eu partneriaeth a’r dull cydweithredol o wireddu’r weledigaeth ar gyfer y lleoliad rhanbarthol pwysig hwn.”
Agorodd ‘Ponty LIVE!’ dymor agor amrywiol a chyffrous o ddigwyddiadau yn y Muni, sy'n cynnwys rhaglen lawn o gerddoriaeth, comedi a sinema ddigwyddiadau. Mae gan y lleoliad gapasiti o 300 o seddi neu 400 ar eu traed, yn ogystal â chapasiti o 120 o bobl ar gyfer digwyddiadau steil cabare. Am fanylion llawn am Beth sy ddod, ac i brynu tocynnau digwyddiad, ewch i wefan swyddogol y Muni: www.y-muni.co.uk.




