Banner Content
Banner Content

Effaith Gymdeithasol

Alawon Aur yn y Met yn Abertyleri

Alawon Aur yn y Met yn Abertyleri

Sut mae ein sesiynau canu cydganu hygyrch a deallgar am ddementia yn gwella llesiant corfforol, cymdeithasol a meddyliol ym Mlaenau Gwent.

Rhannu ar

Rydym yn hynod falch o weld sut mae ein digwyddiadau misol ‘Golden Melodies’ yn y Met yn Abertyleri yn cael effaith mor gadarnhaol ar y bobl sy'n mynychu gyda'u gweithwyr cymorth a'u gofalwyr.

 

Mae'r sesiynau canu cydganol, sy'n gwbl gynhwysol, yn hygyrch ac yn gyfeillgar i bobl sydd â dementia, yn defnyddio cerddoriaeth hiraethus i gysylltu pobl, gwella swyddogaeth wybyddol a lleihau unigrwydd cymdeithasol.

 

Maent yn cefnogi llesiant pobl hŷn mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y gymuned, gan wella ansawdd eu bywydau a'u helpu i fyw'n fwy annibynnol.

 

Maent hefyd yn annog symud, a all wella cydgysylltu a lleihau codymau, lleihau unigrwydd, meithrin ymdeimlad o berthyn ac, uwchlaw popeth, ysbrydoli pobl.

 

Nid yw ‘Golden Melodies’ ond yn un o'r ffyrdd y gall Awen chwarae rhan mewn gwasanaethau gofal iechyd ataliol ac yn y pen draw leihau'r pwysau ar yr GIG, un o nodau allweddol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Met, Paul Selway:

 

“Ar ôl y sesiwn ddoe, roedd rhai o'r bobl oedd yn mynychu a'u gweithwyr cymorth yn llygad-drist oherwydd iddynt fwynhau cymaint. Diolchasant i ni am drefnu'r Golden Melodies a'r sgriniadau ffilm ymlaciol, lle gallant fynd i ddigwyddiadau mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.”



Newyddion Eraill

Story

Awen Secures Capital Investment

Three venues - The Met, Y Muni and Grand Pavilion - will benefit from Arts Council of Wales funding.

Story

Bumper summer for Bryngarw Country Park

There were almost 5,000 visitors over the school summer holidays.

Social Impact

From Trainee to Team Member: Sid’s Journey at Awen

Sid is a trainee at B-Leaf and Wood-B and works at Bryngarw Country Park's cafe.

Story

Awen Secures Capital Investment

Three venues - The Met, Y Muni and Grand Pavilion - will benefit from Arts Council of Wales funding.

Story

Bumper summer for Bryngarw Country Park

There were almost 5,000 visitors over the school summer holidays.