Stori
Cynhelir Mis Hanes Ogwr drwy gydol mis Medi mewn lleoliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rhannu ar
Mynychodd dros 2,000 o bobl 42 o ddigwyddiadau yn ystod Mis Hanes Ogwr eleni, cyfle gwych i arddangos cymdeithasau a safleoedd hanes ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac i gymunedau ymgysylltu â hanes Cymru a hanes lleol.
Roedd rhaglen eleni yn cynnwys arddangosfeydd, diwrnodau agored, teithiau cerdded a sgyrsiau. Roedd digwyddiadau newydd yn cynnwys sioe gomedi hanesyddol yn Neuadd Dref Maesteg, dadl gadeiriol am oresgyniad y Normaniaid ym 1066, a chyfres o ffilmiau hanesyddol. Cynhaliwyd dau ddigwyddiad i blant yn llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr a Maes-teg, lle bu ail-grëwr yn ymgysylltu â phlant â gwrthrychau a straeon hanesyddol.
Hoffem ddiolch i rwydwaith Treftadaeth Ogwr a gwirfoddolwyr Treftadaeth Awen y mae eu hymrodedd, eu hamser a'u gwaith caled yn gwneud Mis Hanes Ogwr yn bosibl. Diolchwn hefyd i'r siaradwyr hynod graff a gymerodd ran yn y digwyddiadau. Cawsom lawer o adborth cadarnhaol, gan gynnwys:
“Mae angen i ni gadw'r pethau hyn yn fyw a diolch i chi am eich rhan yn ein hannog i wneud hynny.”
“Llongyfarchiadau ar Fis Hanes gwych arall. Mwynheais yn fawr yr holl rai y bûm yn eu mynychu a dysgais lawer. Dewiswyd y lleoliadau a'r siaradwyr yn dda i ddarparu amrywiaeth o bwnc.”
“Nid oeddwn yn gallu mynychu pob digwyddiad fodd bynnag, cefais fy mhlesio'n fawr gan y digwyddiadau y bûm yn eu mynychu. Mynychais y digwyddiadau yn Y Bocs Oren ac roedd yn lleoliad gwych. Roedd pob siaradwr yn arbenigwyr ar eu pynciau ac roedd pob siaradwr a phob pwnc yn ddiddorol iawn ac yn berthnasol. Mwynheais yn fawr yr amrywiol fformatau a ddefnyddiwyd wrth gyflwyno’r sgyrsiau hyn. Edrychaf ymlaen at fynychu mwy o ddigwyddiadau yn Y Bocs Oren, Neuadd y Dref a'r Ganolfan Dreftadaeth yn y dyfodol yn dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.”
Ariannwyd Mis Hanes Ogwr gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.





