Banner Content
Banner Content

Stori

Llwyddiant Sialens Ddarllen yr Haf

Llwyddiant Sialens Ddarllen yr Haf

Cwblhaodd dros 1,300 o blant a phobl ifanc Sialens Ddarllen yr Haf eleni.

Rhannu ar

Bob blwyddyn, mae Llyfrgelloedd Awen yn cynnal Sialens Ddarllen yr Haf i blant, fel arfer rhwng 4 ac 11 oed, er y gall pobl hŷn ac iau gymryd rhan hefyd. Themâ’r flwyddyn hon oedd ‘Ardd Stori – Anturiaethau ym Myd Natur a’r Awyr Agored’.


Mae’r Sialens yn annog y cyfranogwyr i ddarllen chwe llyfr llyfrgell neu fwy yn ystod gwyliau haf yr ysgol, pan fydd sgiliau darllen fel arfer yn dirywio, i ennill gwobrau sy’n cynnwys sticeri, medalau a thystysgrifau.


Mae ymchwil yn dangos bod mwynhad ac ymgysylltiad plant â darllen er pleser ar i lawr, er mai hwn yw’r un dangosydd mwyaf o lwyddiant plentyn yn y dyfodol; yn bwysicach na chefndir addysgol y naill riant na’r llall neu incwm y cartref.

 

I gefnogi’r Sialens, fe redodd llyfrgelloedd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Pharc Gwledig Bryngarw raglen o ddigwyddiadau rhad ac am ddim gan gynnwys gweithdai darlunio, perfformiadau, adrodd straeon, gweithdai dawns, digwyddiadau gwyddoniaeth a gweithgareddau crefft.


Gwyliwch ein fideo lansio yma:



Cefnogir Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Newyddion Eraill

Story

Ogwr History Month was a resounding success

More than 2,300 people attended.

Story

Spooky half-term fun with Awen

Looking for ways to keep the family entertained this October half-term?

Social Impact

Books on Wheels: bringing the library to your door

“They take my old books away and bring me all my new goodies. It’s a very personalised service.”

Story

Ogwr History Month was a resounding success

More than 2,300 people attended.

Story

Spooky half-term fun with Awen

Looking for ways to keep the family entertained this October half-term?