Banner Content
Banner Content

Stori

Hyfforddeion iBroadcast yn Disgleirio ar y Sgrin

Hyfforddeion iBroadcast yn Disgleirio ar y Sgrin

Sut y bu i gydweithrediad â'r darlledwr Sean Holley ac Aspire 2Be arwain at gyfres o ffilmiau byrion yn Y Met.

Rhannu ar

Yn gynharach eleni, bu Awen yn gweithio mewn partneriaeth â'r darlledwr chwaraeon enwog Sean Holley a'r tîm yn y cwmni technoleg dysgu arobryn Aspire 2Be i greu cyfres o ffilmiau byrion gyda chymuned glos Abertyleri.  

 

Cafodd y cyfranogwyr iBroadcast hyfforddiant ym mhob agwedd ar y broses ddarlledu o ymchwilio, cyfweld a chyflwyno i oleuo, sain a golygu. Buont yn defnyddio amrywiaeth o dechnoleg gan gynnwys AI, Sgrin Werdd ac animeiddio.  

 

Nod y prosiect, a ariannwyd gan Lywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, oedd datblygu hunanymddiriedaeth, cyfathrebu, llefaredd, cymhwysedd digidol a sgiliau arlywio'r cyfranogwyr. 

 

Fe roddodd gyfle hefyd i'r cyfranogwyr fforio treftadaeth y Met, ei hanes, cymuned ehangach Abertyleri, a'r rhan y mae'r celfyddydau a diwylliant yn ei chwarae wrth ddatblygu cysylltiadau ac ymdeimlad o falchder yn y lleoedd rydyn ni'n byw ynddyn nhw.  

 

Mae'r cyfranogwyr wedi gwneud gwaith gwych, felly estynnwch am gwpanaid o de, ymlaciwch a mwynhewch eu ffilmiau!   

 

Pauline Bowman – Cyflwyniad

 

Chris Abbas – Deiseb Heddwch Menywod Cymru

 

Gwynfa Evans – Fy Mlaenau

 

Mark Edwards – Cerddoriaeth Fyw yn y Met

 

Paul Midgley – Offerynnau Cerdd DIY

 

Peter Hughes – Treftadaeth y Met

 

Willow Holloway – Y Met

 

Willow Holloway – Yr Artful Jammy Dodgers

 

Pauline Bowman – Clo

Newyddion Eraill

Social Impact

Turn your social value commitments into local impact

Why you should partner with Awen Cultural Trust.

Story

Awen and RWCMD help young performers take next steps

We are grateful to Ali De Souza for his involvement.

Story

Latest drone footage of the Grand Pavilion redevelopment

The new studio theatre and rooftop pavilions are taking shape!

Social Impact

Turn your social value commitments into local impact

Why you should partner with Awen Cultural Trust.

Story

Awen and RWCMD help young performers take next steps

We are grateful to Ali De Souza for his involvement.