Banner Content
Banner Content

Effaith Gymdeithasol

Pobl Ifanc yn Rhoi Adborth Gwych i Lyfrgelloedd Awen

Pobl Ifanc yn Rhoi Adborth Gwych i Lyfrgelloedd Awen

Canlyniadau Arolwg Plant 2026 wedi'u Cyhoeddi.

Rhannu ar

Mae pobl ifanc ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi graddio eu llyfrgelloedd lleol yn hynod gadarnhaol, yn ôl yr arolwg plant diweddaraf a gynhaliwyd gan Awen, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gefnogi darllen, lles a chysylltiad cymunedol.


Fe raddiodd 98% o’r ymatebwyr, 7-12 oed, eu llyfrgell leol yn “dda iawn” neu’n “ragorol”, gan ddangos effaith gref gwasanaethau llyfrgell ar draws y fwrdeistref sirol. Disgrifiodd y bobl ifanc y llyfrgelloedd fel “lle hapus”, yn “hwyl” ac yn rhywle lle maent yn teimlo’n ddiogel, gan adlewyrchu eu pwysigrwydd y tu hwnt i ddarparu llyfrau yn draddodiadol.


Soniodd sylwadau eraill am y cyfleoedd darllen, yr amgylchedd tawel a chroesawgar, yr ystod eang o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac adnoddau sydd ar gael, a chyfleusterau fel cyfrifiaduron, clybiau Lego a mannau chwarae. Roedd llawer yn cydnabod staff cyfeillgar a gwegar y llyfrgelloedd.


Rhoddodd y bobl ifanc wybod am welliannau yn eu hyder darllen, cyfleoedd i gymdeithasu â ffrindiau, a mynediad at weithgareddau ac adnoddau am ddim. Mae'r data hefyd yn dangos ymgysylltiad cryf â gwasanaethau llyfrgell craidd, gyda dros 75% o blant yn benthyg llyfrau, tra bod bron i 70% yn mynychu digwyddiadau fel amser stori a sesiynau crefft.


Mae ymatebion yr arolwg yn dangos sut mae llyfrgelloedd yn parhau i chwarae rôl hanfodol ym mywydau plant trwy gefnogi addysg, gwella lles a darparu mannau cynhwysol i deuluoedd a phobl ifanc. Diolch yn fawr i holl staff llyfrgell Awen sy'n gwneud i hyn ddigwydd bob dydd.

Newyddion Eraill

Story

Investment in Ukrainian, Polish and children’s Braille books

We are helping more children and families access stories in the language and format that best meets their needs.

Story

Awen and TaleGate Announce Cast for This Year's Pantomime

Beauty and the Beast will be performed at the Met in Abertillery and Maesteg Town Hall.

Social impact

“The library gave me my independence back.”

Bridgend resident shares life-changing impact of local library.

Story

Investment in Ukrainian, Polish and children’s Braille books

We are helping more children and families access stories in the language and format that best meets their needs.

Story

Awen and TaleGate Announce Cast for This Year's Pantomime

Beauty and the Beast will be performed at the Met in Abertillery and Maesteg Town Hall.