Banner Content
Banner Content

Stori

Lleisiau Rhyddid

Lleisiau Rhyddid

Roedd Lleisiau Rhyddid, ein harddangosfa ymgolli amlsynhwyraidd, yn ofod i fyfyrio a chofio aberthau ein Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw.

Rhannu ar

Fe wnaeth pobl o bob oed gymryd amser i brofi'r gosodiadau ysgogol yn Neuadd Dref Maesteg, a ysbrydolwyd gan atgofion amser rhyfel cyn-filwyr a chymunedau lleol, gan gynnwys: 


Ystafell i Myfyrio  

Ystafell ddrychog yng ngoleuni canhwyllau lle gallai ymwelwyr wrando ar recordiad o'r gerdd 'Freedom Road' gan y Bardd Llawryfog Simon Armitage.

 

Lleisiau Cyn-filwyr

Fe wnaeth fideos o gyn-filwyr lleol rannu straeon am eu profiadau a'u syniadau ar ryddid. Darparwyd sain trwy glustffonau er mwyn caniatáu ar gyfer myfyrio tawel.

 

Meysydd Pabi

Defnyddiwyd realiti estynedig i daflu maes o babïau coch yn ddigidol, a oedd yn symud wrth i ymwelwyr gerdded ar draws y gosodiad.

 

Ffynnon Dymuniadau

Lle tawel ar gyfer myfyrio a synfyfyrio, yn cynnwys delweddau symudol o gyn-filwyr o bob rhan o Dde Cymru.

 

Y Cymry yng Nghoed Mametz

Fersiwn ar raddfa fawr o'r darlun gan yr artist enwog o Gymru a aned ym Maesteg, Christopher Williams, sy'n darlunio Ymosodiad y Sgwadron Cymreig yng Nghoed Mametz ar 11 Gorffennaf 1916.

  

Diolch i:

 

Future Arts Centres

Libraries Connected

Open Eye Gallery

Arts Council England

4Pi Productions

Nazeem Syed

Abby Poulson

Peter Robinson, Mike Smith a changen Ogwr o Gymdeithas y Gwarchodlu Cymreig

Tony Mullins

Cyfranogwyr gweithdai ein llyfrgell

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yr Athro Robert Meyrick 

Teulu Christopher Williams

Emily Rose


Ffotograffau gan Abby Poulson



Newyddion Eraill

Story

Celebrating Welsh Culture at the Heart of Awen’s Work

The Ogi Ogi Ogwr Festival returns to Bryngarw House and Country Park this weekend.

Story

Ogwr History Month Returns This September

Thanks to Welsh Government Priorities for Culture funding.

Story

We have cut our carbon emissions by 24%

Our third annual Carbon Emissions Report has just been published.

Story

Celebrating Welsh Culture at the Heart of Awen’s Work

The Ogi Ogi Ogwr Festival returns to Bryngarw House and Country Park this weekend.

Story

Ogwr History Month Returns This September

Thanks to Welsh Government Priorities for Culture funding.